Cawn flas o greadigrwydd chwe chrefftwr mewn arddangosfa gemwaith yn Galeri yng Nghaernarfon.

Nid yn unig mae’r gemwaith yn cael ei arddangos, ond mae cyfle i weld y broses o greu’r darnau hefyd.

Mae’r syniadau tu ôl i’r gemwaith gan Adel Kay, Ann Catrin Evans, Ceri Ann, Elly Englefield-Morgans, Julie Mellor ac Osian Efnisien yn cael eu cyfleu trwy frasluniau.

Adel Kay 

Oherwydd cariad tuag at batrymau blodeuog y cwblhaodd Adel Kay Lefel 3 City and Guilds mewn tecstilau yn 2016.

Mynychodd sawl dosbarth gwneud gemwaith a dysgodd greu gemwaith.

Ei arbenigedd yw alwminiwm.

“Mae fy ngwaith yn cael ei ysbrydoli gan y fflora a welaf ar fy nheithiau sy’n cael eu ffotograffio a’u defnyddio fel ysbrydoliaeth, meddai.

“Mae dyluniadau botanegol yn cael eu hargraffu â llaw ar alwminiwm anodedig a’u gwneud â llaw yn emwaith deniadol.”

Ann Catrin Evans 

Mae Ann Catrin Evans yn creu cerfluniau pensaernïol a gemwaith, gan ddefnyddio haearn a metalau.

Ers 1989, mae hi wedi gweithio ar nifer o brosiectau, comisiynau, arddangosfeydd a phrosiectau preswyl.

Enillodd y Fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd 1993 a chydradd gyntaf yn y Bala yn 1997, ac mae hi wedi gwneud Coronau niferus ar gyfer Eisteddfodau.

Mae hi’n defnyddio technegau gôf traddodiadol, gan ganolbwyntio ar haearn, efydd, dur di-staen, arian, copr ac aur.

Ceri Ann

Gôf arian hunanaddysgedig yw Ceri Ann, sy’n creu gemwaith gyda llaw o’i gweithdy yn Eryri.

“Rwy’n ceisio distyllu harddwch ac emosiwn pur y rhan wyllt hon o’r byd ym mhob dyluniad, gan roi i bob darn rwy’n creu ei synnwyr o le a harddwch ei hun” meddai.

“Dyma o ble mae’r enw Cymraeg ‘Crefftarian’ yn dod – Crefft – Arian.

“Gan fy mod yn dod o Gymru roeddwn i eisiau seilio’r busnes yn fy ngwlad enedigol a’i gwneud yn glir beth oedd tarddiad fy gemwaith.

“Gyda golygfa hyfryd o’r mynyddoedd o’m gweithdy a chydag Eryri a llawer o draethau hardd ar garreg fy nrws, mae’n hawdd cael ysbrydoliaeth.”

Elly Englefield-Morgans

Cwblhaodd Elly Englefield-Morgans radd mewn Tecstilau Cyfoes yn 2005, a dechreuodd ei busnes yn 2012 yng Nghaerdydd.

“Dros y blynyddoedd mae wedi newid, datblygu a dod yn fwy lliwgar!” meddai.

“Mae gemwaith EllyMental wedi cael ei ddisgrifio fel ‘rhyfeddol fympwyol’ a ‘chelf gwisgadwy’ a dwi’n meddwl bod hynny’n swnio’n iawn!

“Mae fy holl ddarnau yn seiliedig ar bethau rwy’n eu caru; anifeiliaid a chreaduriaid o bob math o wenyn i ddeinosoriaid, llenyddiaeth, geiriau caneuon, blodau a môr-forynion.

“Rwyf wrth fy modd â David Bowie hefyd a byddwch yn gweld cyfeiriadau ato o bryd i’w gilydd.

“Mae fy ngemwaith wedi’i wneud o bapurau Thai wedi’u hailgylchu, wedi’u brwsio ar resin a metel wedi’i ailgylchu.

“Yn syml, fy mhroses greadigol yw: tynnu llun, tynnu mwy, newid, ychwanegu rhai geiriau, paent, glud, haen metel, papur lapio a chôt resin.”

Julie Mellor

Ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae Julie Mellor yn archwilio deunyddiau, gan ymchwilio a dysgu technegau gwaith metel a gemwaith traddodiadol.

Iddi hi, mae’n ffordd o ddeall gwahanol ddiwylliannau, rhoi cynnig ar dechnegau coll a phrosesau creu â llaw.

Drwy gyfuno ei gradd yn y celfyddydau cymhwysol, lle canolbwyntiodd ar waith arian, â gradd gynharach mewn tecstilau, mae hi’n creu gwaith sy’n edrych yn fanwl ar yr amrywiaeth o waeadau yn y byd naturiol.

Ar gyfer y casgliad hwn mae hi’n defnyddio’r dechneg hynafol o gastio cwyr coll a chastio llosg.

Mae hi’n edrych yn fanwl ar yr amrywiaeth o weadau yn y byd naturiol.

Mae’r eitemau bob dydd mae modd eu hanwybyddu, eu hosgoi neu gerdded drostyn nhw yn cael eu codi a’u harchwilio.

Osian Efnisien 

Artist a dylunydd yw Osian Efnisienl, sy’n aelod o’r ‘precious collective‘, sef grŵp o artistiaid a gemyddion rhwngwladol sy’n herio ac ehangu’r rolau, cysyniadau a’r agweddau sy’n sail i harddwch a gwerth o fewn gwaith gemwaith cyfoes.

Ar hyn o bryd mae Osian yn archwilio themâu mytholeg, dosbarth a hud yn ei waith drwy greu darnau cerfluniol digidol/analog unigryw o fewn ffurf modrwyau, cleddyfau a choronau.

Dylai mwy o bobol gyffredin wisgo coronau, meddai.