Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r arlunydd Mike Jones o Gwm Tawe, sydd wedi marw’n 80 oed.

Roedd yn adnabyddus am ei bortreadau a’i dirluniau mynegiadol a syml, yn aml wedi’u hysbrydoli gan dirwedd a chymeriadau diwydiannol y de, yn enwedig yn ei filltir sgwâr.

Cafodd ei fagu yng Nghilmaengwyn a Godre’r-graig ger Ystalyfera, ond bu’n byw ym Mhontardawe yn ddiweddarach.

Roedd yn cael ei ystyried yn un o’r artistiaid olaf i allu arsylwi a phortreadu cymunedau diwydiannol y de cyn iddyn nhw ddechrau newid.

Roedd ei rieni’n cadw tafarn, a’i dad, ‘Shôn y Bird’ fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn löwr ym mhwll Tarenni Gleision.

Er i Mike Jones weithio yn y pwll glo am gyfnod yn ystod yr haf pan oedd yn ifanc, aeth yn ei flaen i weithio gyda Chyngor Abertawe.

Dechreuodd ar ei yrfa fel arlunydd proffesiynol yn yr 80au ar ôl cael cyfle i ymddeol yn gynnar o’r Cyngor, a dilyn anogaeth Eryl, ei wraig.

Ers hynny, mae ei waith wedi cael ei arddangos mewn orielau dros Gymru, a thu hwnt, ac mae casgliad o bortreadau o gymeriadau Cwm Tawe a’i ymateb i weithiau beirdd a llenorion lleol wedi’u casglu mewn llyfryn, Wrth eu gwaith, a gafodd ei gyhoeddi mewn cydweithrediad â Chylch Darllen Cwm Tawe.

Arlunydd ei filltir sgwâr

Yn aml, mae gwrthrychau ei ddarluniau yn ei atgoffa o’i rieni a’r gymuned o gymeriadau yng nghymoedd diwydiannol, Cymraeg eu hiaith, yn Abertawe – o löwyr, gweithwyr dur a ffermwyr, i fam gyffredin yn gwneud neges neu fenywod yn gosod dillad ar lein.

“Ar ddechrau fy ngyrfa fel arlunydd roeddwn yn hoff o ddarlunio cloddiau a pherthi. Ond ar hap, tra ym Mhenwyllt [hen bentref chwarelyddol tua phum milltir o Ystradgynlais] digwydd i mi daro ar dyddynwr yn hollti pyst â bwyell o flaen ei gartref,” meddai mewn cyfweliad â Golwg fis Hydref y llynedd, ar achlysur ei ben-blwydd yn 80 oed.

“Roedd yr osgo a’r modd y defnyddiai’r offer yn wefreiddiol, a byth ers hynny mae gwŷr a gwragedd y cwm wedi fy symbylu.

“Gallwn edrych ar dirlun hyfryd a fyddai ddim yn fy nghymell i’w baentio, ond yna efallai y byddwn i’n gweld dyn yn eistedd ar fainc, a byddwn yn teimlo ysfa i’w beintio.

“Dw i’n cael fy nenu at fy mhobol fy hun… osgo eu cyrff, eu dwylo mawr cadarn, eu hysgwyddau sgwâr yn cyfleu ymdeimlad o waith caled a llafurio.”

Cafodd Mike Jones ei fentora gan yr arlunydd Josef Herman, y paentiwr o Wlad Pwyl a dreuliodd dros ddegawd yn byw yn Ystradgynlais.

Wrth roi teyrnged i Mike Jones, dywedodd Ymddiriedolaeth Gelf Josef Herman Cymru fod Josef Herman wedi dweud yn 1998 bod ei “ffigurau mewn du a gwyn yn aros yn y cof”.

“Am golled heddiw, cydymdeimladau i’w deulu,” meddai’r Ymddiriedolaeth.

‘Cymru’n dlotach’

Dywed Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, fod Cymru’n dlotach o’i golli.

“Mor drist i glywed am farwolaeth yr arlunydd o Bontardawe Mike Jones,” meddai.

“Mae ei waith wedi cyfleu a phortreadu pobol a thirwedd Cwm Tawe a Chymru.

“Pob cydymdeimlad ag Eryl a’r teulu.

“Mae Cwm Tawe a Chymru gyfan yn dlotach o golli artist dawnus a Chymro angerddol.”

‘Gwaddol greadigol fawr’

Ar achlysur ei ben-blwydd yn 80 oed y llynedd, cafodd arddangosfa o’i waith ei chynnal yn Nhŷ’r Gwrhyd, canolfan Gymraeg Pontardawe, ac mewn teyrnged, dywedodd y ganolfan ei bod hi’n fraint cael arddangos ei waith.

“Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth un o ddoniau celfyddydol mawr Cwm Tawe a Chymru, yr arlunydd Mike Jones,” meddai’r Ganolfan.

“Bu’n fraint o’r mwyaf i Dŷ’r Gwrhyd fod yn gartref i arddangosfa olaf Mike ar achlysur ei ben blwydd yn 80 oed ym mis Hydref y llynedd.

“Roedd yn hyfryd gweld ymateb pobl leol a rhai o bell, o bob oed a chefndir, i’w waith yn darlunio cymeriadau bro ei febyd.

“Mae’n gadael gwaddol greadigol fawr i’w genedl. Estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf at ei wraig, Eryl, a’r teulu, yn eu colled.”

Mike Jones yn ei stiwdio ym Mhontardawe

“Anrhydedd”

Ychwanegodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru,  ei fod yn “drist clywed” am farwolaeth “un o beintwyr pwysicaf Cymru ac un o groniclwyr gweledol ein hanes ac ein cymunedau diwydiannol”.

“Anrhydedd cael ei ddarluniau wedi’u harddangos yn fy swyddfa, darluniau y gwnaeth e eu rhoi i’m rhagflaenydd, Gwenda Thomas,” meddai.

Dywed Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, fod Mike Jones yn “arlunydd mawr Cymraeg modern”.

“Ddrwg iawn gen i glywed am ei farwolaeth. Mae ei etifeddiaeth yn gadarn,” meddai.

 

Yr artist sy’n cael gwefr gan bobol y cwm

Cadi Dafydd

Mae’r arlunydd bytholwyrdd Mike Jones yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 fis yma, ac mae’r filltir sgwâr mor bwysig ag erioed iddo

Arddangosfa i ddathlu pen-blwydd arbennig yr arlunydd Mike Jones

Cadi Dafydd

Ei filltir sgŵar yng Nghwmtawe yw prif ddylanwad yr arlunydd, a bydd dros ugain o’i luniau’n cael eu harddangos ym Mhontardawe am wythnos yn unig