Mae teyrngedau lu wedi eu rhoi i’r cyhoeddwr Roger Boore o Wasg y Dref Wen..

“Does dim amheuaeth iddo osod y bar yn uchel ar gyfer cyhoeddi Cymraeg i blant.” Dyma eiriau cyn-Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau Cymru am Roger Boore, sylfaenydd Gwasg y Dref Wen, a fu farw’r wythnos ddiwethaf yn 82 oed.