Mae ffotograffydd ifanc o Borth Tywyn yn “meddwl lot am bopeth sy’n mynd fewn i’r llun”…

Yn ei arddegau fe aeth Dylan Thomas i goleg i astudio Lefel ‘A’ Ffotograffiaeth, cyn cael llond bol ar fyd addysg.

“Roeddwn i wedi mynd i coleg, ond doedd e’ jest ddim yn fi, ac wedyn wnes i dropo mas,” eglura’r ffotograffydd 25 oed o Borth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin.