Mae podlediadau am ddwyieithrwydd a rhyw yn ymuno â’r podlediad hynaf yn y Gymraeg ar restr fer y wobr iaith Gymraeg yng Ngwobrau Podlediadau Prydain.

Prosiect y digrifwr Elis James yw Dwy Iaith, Un Ymennydd, sy’n archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant, i ffordd arall o weld y byd ac i bersonoliaethau gwahanol.

Mae’r podlediad wedi’i gynhyrchu gan gwmni Alpha ar gyfer BBC Cymru.

Un arall o bodlediadau BBC Sounds yw Siarad Secs, sef podlediad Lisa Angharad sydd wedi’i gynhyrchu gan Astud.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel podlediad lle mae “siarad am ryw a rhywioldeb mewn ffordd agored a gonest”, gan ddefnyddio’r slogan “popeth yn Gymraeg”.

Prosiect Bryn Salisbury, Iestyn Lloyd a Sioned Mills yw Yr Haclediad, a hwnnw’n cael ei ddisgrifio fel “tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis”, ac fel “podlediad hyna’r Gymraeg”.

Mae’r gwobrau hefyd yn cydnabod podlediadau yn y celfyddydau, y brand gorau, podlediadau busnes, comedi, materion cyfoes, podlediadau dyddiol, podlediadau i’r teulu, ffuglen, cyfweliadau, digwyddiad y flwyddyn, y podlediad mwyaf clyfar, podlediadau radio, podlediadau byw, y cynnyrch gorau, podlediadau ffordd o fyw a lles, podlediadau newydd sbon, podlediadau chwaraeon, adloniant, rhyw a pherthnasau, podlediadau trosedd a chreadigrwydd.