Mae Channel 4 wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau mwy o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn ceisio denu “cenhedlaeth newydd” o wylwyr.

Mae’r sianel ar fin darparu mwy o gynnwys ar gyfer pobol yn eu harddegau, gyda buddsoddiad saith ffigwr i “lenwi bwlch yn y farchnad”.

Bydd deunydd newydd yn cael ei ddosbarthu ar Facebook, Snapchat, YouTube, Instagram a safleoedd cyfryngau cymdeithasol mawr eraill.

Mae’r symudiad yn digwydd wrth i Channel 4 gofnodi cynnydd o 26% yn ei defnydd digidol yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018.

Mae Channel 4 hefyd wedi dweud ei bod am ddenu gwylwyr newydd nad ydyn nhw’n gwylio rhaglenni o wledydd Prydain.