Yn fuan ar ôl dathlu ei phen-blwydd yn ugain oed yr wythnos ddiwethaf, mae Canolfan y Mileniwm wedi cael ei disgrifio fel “cyrchfan gelfyddydol arbennig” i Gymru.
Daw’r sylwadau gan Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, wrth siarad â golwg360.
Agorodd y Ganolfan yn wreiddiol ar Dachwedd 26, 2004, a hynny’n rhan o brosiect adnewyddu Bae Caerdydd.
Wedi twrw eleni ynghylch hyfywedd sector y celfyddydau yng Nghymru, mae Dafydd Rhys wedi talu teyrnged i gyfraniad y Ganolfan at ddiwylliant celfyddydol Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf.
‘Adrodd straeon am Gymru, ac o Gymru’
“Mae Canolfan y Mileniwm wedi dod yn gyrchfan gelfyddydol arbennig,” meddai Dafydd Rhys wrth golwg360.
“Mae’n ganolfan boblogaidd, nid yn unig o ran denu sioeau poblogaidd o Lundain a thu hwnt, ond hefyd i gynhyrchu gwaith theatrig arbennig yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd yn adrodd straeon am Gymru ac o Gymru.”
Roedd llwyddiant y dramâu Branwen, Nye a The Boy with Two Hearts “yn dyst i hynny”, meddai.
Yn ogystal ag ariannu cynyrchiadau dramatig, mae’r Ganolfan wedi bod yn hwb i’r celfyddydau ehangach.
“Mae gofodau eraill o fewn y Ganolfan yn llwyfannu gwyliau fel ‘Llais’ neu’n cynnig llefydd ar gyfer perfformiadau cyhoeddus rhad ac am ddim.”
Mae gŵyl Llais yn dathlu doniau cerddorol Cymru ar lwyfan y Ganolfan bob blwyddyn, ac mae rôl elusennol bwysig gan y Ganolfan hefyd.
Dywed Dafydd Rhys fod y Ganolfan yn “buddsoddi ei helw i gynlluniau sy’n meithrin talent newydd a chynnig pob math o gyfleoedd datblygu gyrfa”.
‘Blaengar’
Yn ogystal â chefnogi diwydiannau celfyddydol sy’n bodoli eisoes yng Nghymru, mae Dafydd Rhys yn pwysleisio cymaint o ymdrech roedd y Ganolfan yn ei gwneud er mwyn gwneud profiadau celfyddydol yn fwy hygyrch a chyfoes i bawb.
“Un datblygiad pwysig o ran y blynyddoedd diweddaraf ydy sut mae’r Ganolfan wedi ymestyn allan i gymunedau’r Bae yng Nghaerdydd, a chynnig cyfleoedd arbennig i bobol ifanc,” meddai.
“Maen nhw’n cydweithio yn arbennig gyda charnifal blynyddol Tre-biwt.”
Pan ddechreuodd y gwaith o adnewyddu Bae Caerdydd yn y 1990au, fe achosodd yr aflonyddwch gryn dipyn o rwystredigaeth yng nghymuned Tre-biwt.
Ond bellach, mae’n ymddangos bod gwreiddiau go iawn wedi’u bwrw gan y Ganolfan yn y gymuned leol.
“Dydy’r Ganolfan ddim yn sefyll yn llonydd wrth i chwaeth y gynulleidfa, anghenion cymunedau a thechnoleg ddatblygu.
“Mae’r Ganolfan yn enghraifft arbennig o’r angen i ymateb, i fod yn flaengar ac i gynnig cyfleoedd ar draws ystod eang o brofiadau o waith operatig, i theatr arbrofol ac i waith digidol blaengar.
Mae’n debyg y bydd hyn yn allweddol wrth fynd i’r afael â’r heriau mae’r sectorau celfyddydol yn eu hwynebu yn y dyfodol agos.
Cyllid ychwanegol
Ychydig wythnosau yn ôl, fe fu Dafydd Rhys yn cyfeirio mewn datganiad i BBC Cymru Fyw at fygythiad toriadau cyllidol a chaledu ar hyfywedd y celfyddydau yng Nghymru.
Bryd hynny, dywedodd fod y sector wedi profi toriad o 40% mewn termau real ers 2010, ac na fyddai unrhyw “sector proffesiynol yn bodoli mewn deng mlynedd… os ydy’r darlun yna’n parhau”.
Yn sgil pryderon ariannol o’r fath y cytunodd cerddorion yr Opera Cenedlaethol, sydd â’u pencadlys yng Nghanolfan y Mileniwm, i weithredu’n ddiwydiannol yn gynt yn y flwyddyn.
Ond ddydd Mawrth (Rhagfyr 3), cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n darparu cyllid ychwanegol o £1m dros y flwyddyn nesaf er mwyn “cefnogi gwytnwch sefydliadol a diogelu swyddi yn sector y celfyddydau”.
Caiff y cyllid hwn ei ddarparu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’r Opera Cenedlaethol ymhlith y sefydliadau fydd yn cael eu cefnogi.
“Nid ar chwarae bach mae cynnal y fath sefydliad gyda chostau sy’n cynyddu,” meddai Dafydd Rhys.
“Ond dw i’n edrych ymlaen at gael gweld sut y bydd y Ganolfan yn tyfu a datblygu dros yr ugain mlynedd nesaf.”