Yn un o gabanau Ysgol Bodhyfryd, roedden ni i gyd wrthi’n dysgu cân newydd cyfrwng Cymraeg, ac mi roedd o’n gyffrous. Cân hyfryd oedd hi, am ddelio hefo heriau bywyd a digalondid trwy wenu. Fuasai gwenu, yn ei thro, yn golygu y byddai eraill yn gwenu yn ôl – a rhywsut fysa pethau yn teimlo’n well.

Enw’r gantores oedd Caryl Parry Jones, ac mi roedd hi hefyd yn ‘lleol’, yn ôl yr athrawon, oedd wrthi’n nodio yn ystyrlon ar ei gilydd; doedd hi ddim cweit o Wrecsam, ond rhywle yn y gogledd-ddwyrain, ac roedd hynny’n teimlo’n bwysig.

Sbïais ar y llun o ddynes ifanc ddel, hefo’i hesgyrn boch uchel, cyrls glamorous, a gwên ddireidus – Kylie Gymraeg! Wel jiw jiw, a hithau jyst fel fi! Rhywbryd yn ystod y llinell amser cyfagos, ges i ‘Kylie Perm’ hefyd, ac roedd fy ngwallt yn frown tywyll, felly o ran delwedd corff mi, roedd hi’n match go lew i mi ei hedmygu.

Trac sain i fy mywyd

Wnaethon ni ddysgu sawl ‘cân Caryl’ yn yr ysgol, gan gynnwys ‘Nadolig Llawn i chi gyd’, hefo’i neges ddwys: Ynghanol sŵn y dathlu/ a oes ‘na le i’r Iesu/ neu ydi’r llety’n llawn o hyd? Cafodd y gân yma gryn effaith arnaf, a teg yw dweud fy mod yn oedi pob… un… flwyddyn… ers hynny (tua 1988) wrth baratoi at y Nadolig, gan straffaglu hefo ystyr a phwynt y Nadolig, a pa mor briodol yw’r holl halibalŵ modern gennym.

Caryl hefyd oedd tu ôl i’r gân ‘Gwyliau yn y Caribî’ – cân ysgafn wnaethom ei dysgu yn y neuadd fel grŵp mawr – efallai jambori. Mae hi wedi ei gosod fel un o gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd 2023.

Ond yn y bôn, y cân ‘Gwena’ wnaeth yr argraff fwyaf arnaf. Dw i ddim yn gor-ddweud rŵan, rwyf wedi bod yn canu’r gân yma i mi fy hun ers i mi ei dysgu ’nôl yn yr wythdegau. Rwy’n berson reit drist fel y cyfryw, ac mae llond lle o bethau heriol wedi digwydd i mi. Ond ym mhob sefyllfa erchyll, beryglus, llawn pryder ac arswyd, tynnais ar neges y gân yma. Roedd rhai o’r geiriau’n anghywir gen i, ond y gân yma oedd hi.

Efallai medrwn esbonio hyn oherwydd yr oed neu’r cyfnod yn fy natblygiad oeddwn i pan wnes i ei dysgu, neu fy mherthynas hefo’r iaith Gymraeg, neu ryw ongl seicolegol arall, ond beth bynnag am y rheswm, roedd yn bwerus a dw i’n hynod o ddiolchgar iddi am fod yn rhan o fy psyche.

Bardd y Mis, Ionawr 2021

Wrth i 2021 wawrio, roeddwn wrthi’n creu gyrfa newydd i fy hun fel ‘Bardd’, wedi i fy ngyrfa academaidd ffrwydro yn fy wyneb, a chefais y fraint o fod yn ‘Fardd y Mis’. Roeddwn yn barod yn dioddef o imposter syndrome, ac yn ymwybodol iawn o’r dirmyg tuag ataf gan sawl un oedd ddim yn fy ngweld i’n deilwng o’r anrhydedd yma; ond naw wfft iddyn nhw, dyma oedd fy nghyfle, a doedd dim byd yn mynd i darfu ar hynny.

Yna, ges i wahoddiad i fod ar sioe Caryl Parry Jones a Dafydd Meredydd – duwcs! Fyswn yn siarad hefo’r Dduwies ei hun! Roeddwn yn gwbl star-struck ac yn nerfus iawn. Ond roedd yn hyfryd o brofiad. Ges i groeso cynnes gan y ddau ohonyn nhw, ac mi roedden nhw’n glên iawn, gan fy nhrin hefo’r un math o barch a chwarae teg fysech chi’n disgwyl i unrhyw ‘fardd’ ei gael.

Doeddwn i ddim yn gyfarwydd â Dafydd ar y pryd, ond dw i’n ei gofio fo’n holi yn gwrtais ynglŷn â theitl fy nghyfrol Rwdlan a bwhwman, a theimlais ei fod o wir yn dangos diddordeb yn fy ngwaith, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn iddo fo am hynny.

Clwb Caryl PJs

Yn ddiweddar, mae Caryl wedi dechrau sioe radio newydd hyfryd gyda’r hwyr. Rhaid dweud, mae’r slot 9yh – 12yb braidd yn anghyfleus i mi fel arfer, achos dyna’r adeg dw i a’r gŵr yn hoffi snyglo fyny i wylio House of the Dragon neu rywbeth tebyg, ond mae BBC Sounds hudolus yn caniatáu i rywun ‘wrando nôl’, er enghraifft wrth baratoi swper a golchi’r llestri’r diwrnod wedyn.

O ganlyniad, dw i wedi datblygu perthynas The Lake House (2006) hefo Caryl a’i sioe – fi yw Sandra Bullock a hi ydy Keanu Reeves! OND… mae fy ngŵr yn mynd i Ghana cyn bo hir, a braf felly fydd cael ymuno hefo Clwb Caryl PJs in real time! Dw i’n edrych ymlaen at gael cwmni Caryl, a’i hacen Ffynnongroyw gyfarwydd (roedd athrawes glên gennym yn Ysgol Morgan Llwyd hefo’r un acen). Dw i’n caru’r sioe newydd a’r ffaith fod Caryl dal yn fy mywyd hyd heddiw.

1 Geiriau ‘Nadolig llawen i chi gyd’

2 Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd 2023