Mae menter gymdeithasol yng nghanol Caernarfon wedi trefnu gig i leddfu’r felan ôl-eisteddfodol.

Mae ystafell gymunedol Lle Arall wedi ei lleoli o fewn Llety Arall, menter sy’n cynnig llety yng nghanol tref Caernarfon.

Y digwyddiad diweddaraf i’w gynnal yn y stafell gymunedol fydd gig i leddfu’r hiraeth sydd gan bobol yr ardal am yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mi gawson ni chwip o wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022,” meddai Osian Owen o’r fenter.

“Mi fydd hi’n Eisteddfod fydd yn aros yn y cof yn hir iawn, a bydd yn cael ei chofio fel un o’r goreuon.

“Ond mae nifer o Eisteddfodwyr yn gyfarwydd iawn á’r ‘felan ôl-eisteddfodol.’

“Mi ydach chi’n treulio wythnos neu fwy wedi eich trochi yn y Gymraeg: ei sŵn, ei diwylliant, a’i cherddoriaeth, a wedyn jest fel’na, mae’n rhaid i rywun ddychwelyd at realiti bywyd.

“Ond eleni fydd ’na ddim angen i bobol yr ardal hon fod yn ddigalon.

“Mae Llety Arall wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau dros y misoedd diwethaf a’r diweddaraf yn y gyfres honno yw Gig y Blws Ôl-Eisteddfodol.”

Bydd Llety Arall yn croesawu’r artistiaid adnabyddus Eve Goodman, Pedair ac Elidyr Glyn – tri fu’n perfformio yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yr wythnos ddiwethaf.

Cantores-gyfansoddwraig werin sydd bellach yn byw yn y Felinheli yw Eve Goodman, ac mae’n perfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Elidyr Glyn yn adnabyddus i bobol leol fel un o aelodau Bwncath ac mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin arobryn amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James.

“Am rai oriau y nos Wener hon cawn gogio ein bod yn ôl yn y Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod, a hynny yn sŵn rhai o artistiaid amlycaf Cymru,” meddai Osian Owen wedyn.

Mae tocynnau’n £6 ac ar gael yn siop lyfrau Palas Print o ddydd Mawrth 9 Awst ymlaen, neu gallwch dalu drwy ffonio 01286 662907.

Mae hawl i chi ddod â’ch diodydd eich hun i’r digwyddiad, meddai’r trefnwyr.