Bu farw’r canwr ac actor Dyfrig ‘Topper’ Evans yn 43 oed, yn dilyn cyfnod byr o salwch.

Wedi’i eni ym Mhenygroes a’i addysgu yn Ysgol Dyffryn Nantlle, i fyd actio aeth e gyntaf gan ddod i amlygrwydd fel aelod o gast gwreiddiol Rownd a Rownd, gan chwarae’r cymeriad Arwel neu ‘Ari Stiffs’.

Ond fel y dywedodd wrth golwg y llynedd, yn C’mon Midffîld ymddangosodd e gyntaf, yn 13 oed.

Fe ymddangosodd yn nifer o gyfresi S4C wedyn, can gynnwys ‘Emyn Roc a Rôl’ fel Emyr, ‘Gwlad yr Astra Gwyn’, ‘Talcen Caled’ fel Huw Williams, ‘Tipyn o Stad’ ac yn fwy diweddar ‘Y Gwyll/Hinterland’.

Yn 2016, bu’n serennu yn y ddrama ddogfen ‘Llythyrau Elis Williams’, hanes Cymro alltud o Wynedd fu’n gweithio fel gaucho yn y Wladfa ym Mhatagonia.

Yn gerddor, roedd yn adnabyddus fel canwr a gitarydd y band Topper gyda’i frawd Iwan, ac fel canwr unigol, gan ddatblygu’r llysenw ‘Dyfrig Topper’.

Ymhlith ei ganeuon amlycaf fel artist unigol roedd ‘Gwas y diafol’, ac fe ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2019 gyda’r gân ‘LOL’.

Teyrngedau

“Mae yna deimlad o chwithdod mawr yn Nyffryn Nantlle,” meddai Alun Ffred Jones wrth golwg360.

“Mae unrhyw golled o fachgen talentog mor ifanc yn ergyd fawr, ac i’r teulu.

“Mae chwithdod mawr ffordd hyn, dw i wedi bod yn siarad bore ’ma efo pobol, achos roedd o’n gymeriad bywiog a thalentog, wrth gwrs, ac mae’n drist iawn, iawn cofnodi’r peth.

“Fel canwr ddechreuodd o, ond mi ddechreuodd actio’n ifanc iawn ar y teledu.

“Roedd o’n amryddawn iawn, iawn – y brodyr yn dalentog – ac mae’n drist iawn, iawn colli rhywun mor ifanc.

“Dw i’n gwybod fod ’na wrido mawr yn yr ardal yma o glywed y newyddion.”

Darllenwch gyfweliad 20:1 golwg gyda Dyfrig isod:

Dyfrig Evans

Barry Thomas

Mae’r canwr 42 oed yn byw yng Nghaerdydd ac yn rhannu ei amser rhwng cyfansoddi a rheoli siop goffi