Mae sioe newydd wedi cael ei lansio ar ddiwrnod T. Llew Jones, gyda’r bwriad o ddod â llyfrau’r awdur yn fyw i blant Cymru.

Nofelydd a bardd oedd Thomas Llewelyn Jones, oedd yn ysgrifennu fel T. Llew Jones.

Bu’n ysgrifennu am dros hanner canrif, ac mae’n un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd Cymru.

Cafodd ei eni ym Mhentre-cwrt, Sir Gaerfyrddin a mynychodd Ysgol Gynradd Capel Graig ac Ysgol Ramadeg Llandysul.

Bu’n athro ac yna’n brifathro am 35 mlynedd yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac yna yn Ysgol Gynradd Coed-y-Bryn ger Llandysul.

Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd Gadair yn Eisteddfod Glyn Ebwy yn 1958 ac eto’r flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Caernarfon 1959.

“Cyffrous”

Cafodd y sioe ei chomisiynu gan gwmni Mewn Cymeriad, mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Sir Ceredigion ac fe’i sgriptiwyd gan Anni Llŷn.

Bydd y sioe yn rhan bwysig o ddathliadau diwrnod T. Llew Jones yn ysgolion Ceredigion eleni.

Mae’r sioe ar ffurf monolog gydag actores ifanc o ardal Aberteifi yn chwarae rhan Cati Wyllt.

Mae Nia James newydd raddio gyda gradd MA mewn Theatr o Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd ac yn gyn aelod o gwmni perfformio CICA yn Aberteifi.

Dywedodd Eleri Twynog, Cyfarwyddwr Mewn Cymeriad: “Fel Cardi, ac un oedd wrth fy modd â nofelau T Llew, mae’n gymaint o bleser gallu cyflwyno sioe newydd yn seiliedig ar fywyd a gwaith T Llew Jones.

“Mae’r sioe yn gyffrous ac anturus, yn union fel ei nofelau, gyda chyfleoedd i blant ddefnyddio eu dychymyg a bod yn fôr-ladron neu’n arwyr dewr.”

“Ysbrydoliaeth”

Ychwanegodd Non Davies, Rheolwr Corfforaethol Diwylliant, Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Adran Ddiwylliant y Cyngor Sir yn hynod falch o fedru cefnogi‘r prosiect cyffrous hwn sy’n dathlu gwaith un o awduron mwyaf adnabyddus Ceredigion a’r genedl gyfan.

“Yn ddiau bydd dull unigryw a chreadigol cwmni Mewn Cymeriad o gyflwyno gwaith yr awdur yn ysbrydoli ein pobl ifanc i fynd ati i ddarganfod trysorau llenyddol T Llew Jones.

“Pa well ffordd i ddathlu Diwrnod T Llew Jones nag wrth lansio sioe a fydd yn ysbrydoliaeth i awduron y dyfodol.”