Mae’r band o orllewin Cymru, Los Blancos, wedi cyhoeddi EP newydd fydd yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener, 6 Awst.

Bydd Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig yn cynnwys pump o ganeuon “amrwd a llawn angerdd” sydd wedi eu recordio yn ystod y cyfnod clo.

Dyma fydd eu caneuon newydd cyntaf ers 2019, pan wnaethon nhw ryddhau’r albwm Sbwriel Gwyn a gafodd ei henwebu ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Bu’r band yn recordio yn eu cartrefi dros y flwyddyn ddiwethaf pan doedd dim modd mynd i’r stiwdio, gyda chymorth y cynhyrchydd hirhoedlog Kris Jenkins.

EP ‘amrywiol’ a ‘gwahanol’

Mae’r band wedi siarad am y broses o ysgrifennu’r EP dros y pandemig wrth fethu â gallu recordio eu hail albwm.

“Yn ystod y cyfnod clo, wrth aros i fynd nôl i’r stiwdio i orffen ein hail albwm, aeth pawb nôl trwy hen demos oedd wedi casglu dros y blynydde dwetha, a’u rhoi mewn un ffeil ar dropbox,” meddai Los Blancos mewn datganiad.

“Odd rhyw 40 o syniade yna felly gatho ni y syniad o ryddhau casgliad yn cynnwys un cyfansoddiad gan bob aelod tra bod ni’n aros i gallu fynd nôl i’r stiwdio.

“Mae hyn wedi arwain at EP amrywiol ac mae modd gweld dylanwad pob aelod yn gliriach a sut maent yn cyfrannu at sŵn Los Blancos.

“Odd hyn yn wahanol i’r band achos ni fel arfer yn ysgrifennu gyda’n gilydd mewn ystafell ymarfer gyda phawb yn dylanwadu mewn rhyw ffordd ar bob can.”

Bydd Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig sy’n cael ei ryddhau gan recordiau Libertino ar gael yn eich siopau lleol ac ar wasanaethau ffrydio o ddydd Gwener, 6 Awst.