Mae canolfan gelfyddydau creadigol newydd wedi agor yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Agorodd Nyth, pencadlys diweddaraf Cwmni Frân Wen, ei drysau i’r cyhoedd ddoe (dydd Iau, 29 Gorffennaf).

Mae Cwmni’r Frân Wen wedi sicrhau £1.8m gan y Loteri Genedlaethol, a weinyddir trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, £1.2m trwy Gyngor Gwynedd gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, £200,000 gan Sefydliad Garfield Weston a £10,000 gan Sefydliad Pennant.

Mae wedi cael ei ddisgrifio fel canolfan “gyffrous, heriol ac ysbrydoledig i bobl ifanc”.

Agorwyd drysau’r adeilad ar Ffordd Garth i roi cyfle i’r cyhoedd weld y cynlluniau ar gyfer y ganolfan newydd, cynlluniau sy’n cynnwys gofod perfformio ac ymarfer, stiwdio lai yn y seler, gofodau swyddfa a gofodau cymunedol hyblyg.

Mynychwyd y diwrnod agored gan yr Aelod lleol o’r Senedd, Siân Gwenllïan, sydd hefyd yn llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg.

“Mae’r celfyddydau a diwylliant yn rhannau annatod o fywydau pawb,” meddai.

“Yn enwedig yng Nghymru, rydyn ni’n genedl lle mae diwylliant yn greiddiol i’n ffordd o fyw.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, bûm yn trafod fy mhryder ynghylch effaith andwyol y pandemig ar ddiwydiant celfyddydau Cymru, felly mae’n wych cael achos i ddathlu.”

“Cyffrous”

Ychwanegodd Siân Gwenllïan: “Mae’r cynlluniau’n gyffrous ac yn uchelgeisiol a heb os, bydd y ganolfan yn rhoi profiadau gwerthfawr i bobl ifanc Bangor.

“Does ’na ddim modd rhoi pris ar y rôl mae’r celfyddydau yn ei chwarae ym mywydau pobl.

“Dyna pam fy mod i wedi galw’n ddiweddar am Gronfa Gweithwyr Llawrydd i gefnogi gweithwyr llawrydd Cymru i weithio yn y gymuned ac mewn ysgolion.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau yn dwyn ffrwyth, a hoffwn ddymuno’n dda i Frân Wen.”