Mae sinema’r Galeri yng Nghaernarfon wedi ail-agor y penwythnos hwn.

Roedd y ddwy sgrin wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020, er gwaethaf ymdrechion i geisio eu hagor eto ddiwedd y flwyddyn.

Am y tro, bydden nhw’n gweithredu ar gapasiti is na’r arfer – stafell y sgrin leiaf yn dal 21 o bobl, a stafell y sgrin fwyaf yn dal hyd at 38.

Gyda sawl ffilm fel Space Jam: A New Legacy a Fast & Furious 9 yn cael eu dangos yno, bydd ffilm-garwyr wrth eu boddau.

‘Braf cael cynulleidfa yn ôl’

Mae’r Galeri yn falch iawn o gael croesawu pobl yn ôl unwaith eto ar ôl misoedd o baratoi.

“Mae’n braf cael cynulleidfa yn ôl,” meddai Cyfarwyddwr Creadigol y Galeri, Steffan Thomas wrth golwg360.

“Roedden ni wedi bwriadu agor jyst cyn y Nadolig ond yn amlwg daeth cyfnod clo arall, felly mae wedi bod yn lot o fisoedd o gynllunio, ond rydyn ni’n barod rŵan i ailagor.

“Ac er gwaethaf y tywydd, mae yna gynulleidfa dda yma.”

Bydd y sinema yn gweithredu dipyn gwahanol i’r arfer oherwydd y cyfyngiadau.

“Ar y funud, tridiau’r wythnos fydd y sinema ar agor,” meddai Steffan.

“Ar ddydd Gwener a Sadwrn, mae yna wyth dangosiad, ond ar ddydd Llun, fydd dim ffilmiau yn hwyr yn y nos.

“Fydd dim un ffilm yn dechrau a gorffen yr un amser [yn y ddwy sinema], er mwyn rheoli’r nifer o bobl sydd yn yr adeilad ar un adeg.

“Rhaid i ni ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, felly mae yna system ar waith wrth ddod i mewn i’r adeilad i gofrestru manylion profi ac olrhain ac ati, ac mae yna system arall wedyn i adael yr adeilad.

“Mae hynny ychydig bach yn rhwystredig achos bod rhaid bwcio i ddod i weld ffilm, lle mae pobl yn rhydd i ddod am fwyd heb ddilyn yr un broses.”

Cynulleidfa yn ôl yn y Galeri eto. Llun o dudalen Facebook Y Galeri.

Wedi bod yn ‘ffodus’ iawn

Dros y pandemig, bu’n rhaid i’r Galeri feddwl am ffyrdd eraill o gynhyrchu arian gan nad oedd eu gwasanaethau’n gallu gweithredu fel yr arfer.

“Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn,” meddai Steffan, wrth edrych yn ôl dros y cyfnod.

“Yn hanesyddol, rydyn ni wedi bod yn creu 85% o’n hincwm ein hunain trwy ddulliau masnachol, boed hynny drwy werthiant tocynnau neu drwy rent unedau yn y Galeri ac o gwmpas y dref.

“Yn y fan yna rydyn ni wedi cael y glec fwyaf yn ariannol.

“Yn wahanol iawn felly i’r arfer, rydyn ni wedi gorfod dibynnu bron yn llwyr ar grantiau.

“Felly o fod yn creu ein harian ein hunain, rydyn ni wedi gorfod dibynnu ar grantiau, ond mae hynny wedi golygu bod pawb wedi cadw swyddi.

“Hefyd mae hynny wedi helpu ni i wneud dipyn o waith cynnal a chadw angenrheidiol ar yr adeilad.”

Mynd ’wythnos fesul wythnos’

Wrth fynd ymlaen, mae’r Galeri yn gwrando’n astud ar gyhoeddiadau’r Llywodraeth ynglŷn â llacio.

“Y bwriad erbyn mis Medi yw bydd y rhaglen yn fwy llawn o ran dangosiadau ffilm a digwyddiadau byw,” meddai Steffan.

“Wnawn ni ddim cymryd camau rhy fawr tan ein bod ni’n hyderus bod y gynulleidfa yn teimlo’n saff.

“Mae o allan o’n rheolaeth ni, ond mae’n rhaid i ni jyst mynd wythnos fesul wythnos.”

Gwybodaeth

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rheolau Covid-19 y Galeri, gallwch ymweld â thudalen: https://galericaernarfon.com/covid19.html

Hefyd, dyma glip YouTube i egluro canllawiau’r sinema: