Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at groesawu gŵyl Eisteddfod Gudd ar Orffennaf 31 ac Awst 1.

Bydd y digwyddiad yn rhan o’r Eisteddfod AmGen, sy’n cymryd lle’r Eisteddfod Genedlaethol am yr ail dro eleni.

Er bod nifer cyfyngedig o docynnau ar gael, bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw ar wefan y ganolfan a sianel YouTube yr Eisteddfod.

Ymysg yr artistiaid fydd yn chwarae ar y noson gyntaf mae Eden, Huw Chiswell, Candelas ac Alffa.

Ar yr ail noson, bydd perfformiadau gan artistiaid Encore a Thŷ Gwerin, gyda Welsh of the West End, Côr-ona a Band Rhys Taylor yn rhan o’r arlwy o gerddoriaeth.

Lein-yp y noson gyntaf

‘Hen bryd i ni gael parti mawr’

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw at ddod â’r Eisteddfod Gudd yn fyw i bawb,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Fe fydd mor braf i weld bandiau, perfformwyr ac artistiaid ar lwyfan go iawn, a chael cyfle i fwynhau ychydig o naws ac awyrgylch yr Eisteddfod gyda’n gilydd.

“Ry’n ni wedi dod ag artistiaid amlycaf Cymru at ei gilydd – llawer ohonyn nhw‘n fyw ar y llwyfan – ac eraill mewn sesiynau hyfryd yn eu cynefin eu hunain, a phopeth yn rhan o benwythnos sy’n debyg iawn i’r profiad o fod mewn Eisteddfod go iawn.

“Felly, gwisgwch eich dillad gŵyl, gafaelwch yn eich gwydr ‘Steddfod, ac fe ddown ni at ein gilydd – ar wahân – ar gyfer y parti mwyaf ers Eisteddfod Sir Conwy, Llanrwst.

“Mae hi wedi bod yn amser rhy hir, ac mae’n hen bryd i ni gael parti mawr.  A chofiwch adael i ni wybod lle fyddwch chi’n gwrando a gwylio’r Eisteddfod Gudd!”

Lein-yp yr ail noson

Mae’r tocynnau i’r digwyddiad ar gael nawr drwy wefan Canolfan y Celfyddydau, a bydd y trefniadau’n unol â gofynion cyfyngiadau Covid Llywodraeth Cymru.

Mae rhaglen lawn Eisteddfod AmGen yn cael ei chyhoeddi o Orffennaf 20 ymlaen.