Fe fydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn digwydd ar-lein eleni.

Mae’r pwyllgor trefnu wedi bod yn aros am gyhoeddiad a fyddai’n caniatáu i’r ŵyl gael ei chynnal yng nghanol y dref ar ôl gorfod gohirio yn 2020 o ganlyniad i Covid-19.

Ond o ystyried sefyllfa’r pandemig, mae’r trefnwyr wedi penderfynu cynnal gŵyl wahanol i ddathlu traddodiad cerddoriaeth werin Cymru a’r byd, ac adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl rithiol y llynedd.

Ar benwythnos Gorffennaf 16-18, bydd mynychwyr yn gallu tanysgrifio i dderbyn pecyn o sesiynau cerddorol, llenyddol a chomedi byw gan artistiaid o Gymru a thu hwnt.

‘Cyfnod ansicr’

“Mae hi wedi bod yn gyfnod ansicr i ni fel trefnwyr gŵyl dorfol a phoblogaidd,” meddai Guto Lewys Dafydd, cadeirydd y pwyllgor.

“Ar ôl gorfod gohirio llynedd y gobaith oedd gallu gwahodd pawb yn ôl i Ddolgellau i ddathlu eleni, ond mae’n rhaid i ni warchod iechyd a lles y trigolion lleol yn ogystal â mynychwyr yr ŵyl a’n gwirfoddolwyr.

“Felly cynnal digwyddiad rhithiol fyddwn ni unwaith eto eleni, a dangos cefnogaeth i’n artistiaid.”

Yn ôl Ywain Myfyr, maen nhw’n falch o gynnig “adloniant i bobol yn ystod cyfnod mor ansicr”.

“Gan obeithio y bydd amgylchiadau yn caniatáu, edrychwn ymlaen at wahodd ein cynulleidfa triw yn ôl i Ddolgellau yn 2022, pan fydd y Sesiwn Fawr yn dathlu pen-blwydd yn 30 oed,” meddai.