Cwmni teledu o Gymru yw’r cyntaf yng ngwledydd Prydain i gwblhau ffilmio cyfres ddrama gomedi yn ystod y cyfnod clo – a hynny trwy greu swigen i’r cast a’r criw mewn tafarn.

Bu’n rhaid dod â ffilmio cyfres gomedi newydd, ‘Rybish’, i ben ym mis Mawrth oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

Ond drwy ofyn i aelodau’r criw hunanynysu am bythefnos cyn ailddechrau ffilmio a phrofi rheolaidd, llwyddodd Cwmni Da yng Nghaernarfon i gwblhau’r ffilmio.

“Wrth i ni ffilmio golygfa gyntaf y bedwaredd bennod, cawsom alwad gan y swyddfa yn dweud wrthym am roi’r gorau iddi oherwydd y risg gynyddol o ledaeniad y coronafeirws,” meddai’r Cyfarwyddwr Siôn Aaron.

“Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio, roeddem yn gallu ffurfio swigen oedd yn cynnwys y cast o chwe actor, yr awdur a’r cynhyrchydd a minnau.

“Felly roeddem yn gallu byw gyda’n gilydd yn nhafarn y Beuno yng Nghlynnog Fawr, a gaeodd ei drysau rai blynyddoedd yn ôl, a chydweithio i ffilmio’r tair pennod oedd yn weddill.

“Rwy’n gwybod bod rhai operâu sebon hefyd yn ôl yn ffilmio ond maen nhw’n defnyddio technegau camera sy’n rhoi’r argraff bod yr actorion yn llawer agosach nag y maen nhw go iawn.

“Ond doedden ni ddim eisiau hynny.

“Gan fod y rhan fwyaf o’r golygfeydd yn ‘Rybish’ yn digwydd mewn caban gweithwyr, fyddai hynny ddim wedi gweithio.

“Ni fyddai digon o le, a byddai wedi bod yn anoddach i’r cast dyfu i mewn i’w cymeriadau.”

Yr actorion: Mair Tomos Ifans, Betsan Ceiriog, Dyfed Thomas, Rhodri Trefor, a Sion Pritchard

Dyma’r rhaglen deledu gyntaf i’r actores ifanc, Betsan Ceiriog o Gaernarfon ymddangos ynddi.

Graddiodd hi o Brifysgol Dewi Sant Caerdydd yn 2018.

Dywed ei bod hi wrth ei bodd o fod wedi cael y rhan.

“Roedd yn brofiad dysgu gwych yn enwedig gan ein bod yn cael ad libio ychydig,” meddai.

“Mae fy nghymeriad Bobbi yn fyfyriwr prifysgol sydd newydd raddio ac yn gweithio yn y ganolfan ailgylchu dros yr haf i ennill ychydig o bres er mwyn gallu teithio’r byd.

“Fy nghynllun yn awr ydi cael mwy o rannau actio llwyfan a rhannau ar y teledu neu rannau perfformio mewn theatr gerdd.”

Mair Tomos Ifans sydd yn chwarae rhan Val

Eglurodd awdur y gyfres, Barry Jones, ei fod yn falch iawn o fod wedi gallu cwblhau’r ffilmio yn ystod y cyfnod clo.

“Roedd y ffaith i ni adeiladu ein set ein hunain mewn lleoliad mor anghysbell yn golygu ein bod ni wedi ein hynysu ac nad oedd peryg i aelodau’r cyhoedd alw heibio,” meddai.

“Beth wnaeth ein helpu hefyd oedd ein bod ni wedi gwneud y ffilmio mewn ffordd unigryw.

“Roedd y camerâu wedi’u gosod mewn rig sefydlog uwchben yr actorion yn bennaf.

“Mi wnaeth gymryd amser hir i mi i’w hysgrifennu a threuliais ddyddiau yn eistedd mewn cytiau yng nghanolfannau ailgylchu’r cyngor yn gwrando ar staff a sylwi ar beth oedd yn digwydd a’r hyn roedden nhw’n siarad amdano.

“Fe roddodd gipolwg go iawn i mi ar y gwaith a llond trol o syniadau.

“Roedd yn bleser gweld cymeriadau, a oedd wedi bod yn eiriau ar bapur am gymaint o amser, yn dod yn fyw mewn ffordd mor orffenedig.”

Yr actorion sydd yn dod â chymeriadau Barry Jones yn fyw yw Mair Tomos Ifans, Betsan Ceiriog, Dyfed Thomas, Rhodri Trefor a Sion Pritchard.

Bydd y gyfres gomedi i’w gweld ar S4C yn fuan.