Mae cyfres newydd sy’n dod ar Netflix ddydd Gwener (Gorffennaf 17), wedi ei seilio ar chwedl Arthur, gyda’r cymeriad eiconig, Arglwyddes y Llyn, yn ganolog i’r rhaglen.

Mae’r gyfres newydd yn dilyn cymeriad Nimue, sy’n cael ei disgrifio gan grewyr y rhaglen fel “rhyfelwr pwerus sydd â phwerau dirgel, hi yw’r ferch ifanc sy’n dod yn Arglwyddes y Llyn”.

Dywed yr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, fod y cymeriad Arthuraidd dirgel yn dal i apelio.

“Un rheswm dwi’n meddwl bod y cymeriad yn parhau i ddiddori pobol yw’r ffaith bod gan sawl dynes y teitl hwn,” meddai’r Athro Raluca Radulescu.

“Mae un ohonyn nhw’n cael y clod am godi paragon sifalri Lancelot, tra bod un arall, Vivien/Vivienne neu Nimüe, yn cael ei hadnabod am gymryd pwerau Myrddin oddi wrtho a chymryd ei le yn y byd hudolus.”

Mae Nimue yn cael ei phortreadu gan Katherine Langford yn y gyfres, tra bod Devon Terrell yn chwarae rhan Arthur.

‘Dirgelwch a hud’

Mae Arglwyddes y Llyn yn chwarae rôl bwysig mewn chwedlau Arthur, gan ymyrryd neu ddatgelu gwirionedd am y gorffennol, yn ogystal ag amddiffyn merched, megis pan mae Guenevere yn cael ei chyhuddo o wenwyno marchog yn ystod gwledd.

Dywed Raluca Radulescu bod y dirgelwch a’r hud sy’n gysylltiedig â’r cymeriadau hyn yn golygu bod eu hapêl yn parhau.

“Mae chwedlau yn dal i fod ag apêl dorfol ac yn gwneud dramâu gwych am y rheswm yma – maen nhw’n fod o ystyried y byd o’n cwmpas heb fynnu cael yr atebion i gyd.”