Mae podlediad y digrifwr Elis James sy’n trafod dwyieithrwydd wedi ennill Gwobr Aur Brydeinig.

Cipiodd Dwy Iaith, Un Ymennydd, sydd wedi’i gynhyrchu gan gwmni Alpha Cymru, wobr y Podlediad Cymraeg Gorau yng Ngwobrau Podleiadau Prydain.

Mae’r podlediad yn archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant, i ffordd arall o weld y byd, ac i bersonoliaethau gwahanol.

Yn ystod y gyfres, fe fu’n siarad ag amrywiaeth o bobol am ddwyieithrwydd – y cynhyrchydd a chyfarwyddwr Luned Tonderai, yr actor Richard Elis, yr awdur a pherfformiwr comedi Siân Harries, yr hanesydd yr Athro Prys Morgan, y digrifwr Esyllt Sears, y cyflwynydd radio a DJ Huw Stephens, y gohebydd seneddol Elliw Gwawr, comisiynydd comedi Radio 4 Sioned Wiliam a’r canwr-gyfansoddwr Gruff Rhys.

Dywedodd y beirniad fod “y cyflwynydd yn gwbl gartrefol a chynnes wrth gyfweld â’r gwesteion, oedd yn ddiddorol a chraff”, gan ychwanegu fod “y cynnwys yn rywbeth y gall unrhyw un sy’n siarad Cymraeg uniaethu â fe”.

Enillodd ‘Yr Haclediad’ gan Bryn Salisbury, Iestyn Lloyd a Sioned Mills y Wobr Arian, tra bod ‘Siarad Secs’ (Astud i BBC Cymru) gan Lisa Angharad wedi cipio’r Wobr Efydd.