Fe fydd Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams Cymdeithas y Cymmrodorion yn cael ei thraddodi ar y we fis nesaf, yn ystod yr wythnos pan ddylai Eisteddfod Genedlaethol Tregaron fod wedi’i chynnal.

Bu’n rhaid i Gymdeithas y Cymmrodorion, a gafodd ei sefydlu yn 1751, symud ei holl ddarlithoedd misol ar-lein yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

Yn y ddarlith gyntaf yn y gyfres am 1 o’r gloch ar ddydd Llun, Awst 3, bydd yr Athro Gerwyn Williams o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn traddodi Darlith Goffa Flynyddol Syr Thomas Parry-Williams ar y thema ‘Cyffro’r Newyd, Cysur y Cyfarwydd: ar drothwy canmlwyddiant ‘Mab y Bwthyn’ Cynan’.

Fe fydd yn cofio marw Cynan hanner can mlynedd yn ôl yn 1970 trwy ganolbwyntio ar ei gerdd enwocaf, ‘Mab y Bwthyn’, enillodd iddo’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1921, buddugoliaeth a ddaeth â’r bardd i amlygrwydd.

Ymunodd Cynan â’r Corff Meddygol yn 1916, ac fe ddaeth yn Gaplan ar faes y gad ym Macedonia.

Y bryddest

Mae erchyllderau dyrus y Rhyfel Mawr yn gwahanu’r arwr, milwr gwerinol gwledig, oddi wrth ei gariad, ac yn chwalu eu bywydau, ac mae gobaith ar y diwedd y bydd posib iddynt ddod at ei gilydd rywbryd, trwy faddeuant.

Llwyddiant y bryddest oedd ei gallu i gyfuno cyffro cignoeth a realaeth gyda chysur y cefndir Cymreig traddodiadol.  Gallai Cynan siarad dros genhedlaeth gyfan oedd wedi dioddef pum mlynedd o ryfel a’r epidemig ffliw yn ystod 1918-19.

Ar ddiwedd y ddarlith ceir datganiad gwefreiddiol Aled Lloyd Davies o rannau o ‘Fab y Bwthyn’ ar gerdd dant.

Mae cyfarwyddiadau ynghylch sut i gael mynediad i’r ddarlith ar y wefan www.cymmrodorion.org, lle bydd manylion y darlithoedd eraill yn cael eu cyhoeddi maes o law.