Yn un o wyliau bwyd mwyaf Cymru, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched drwy ymfalchïo yn y ffaith ei bod wedi cael ei sefydlu gan wirfoddolwyr benywod, a’u bod nhw’n cael eu harwain gan fenywod.

Erbyn heddiw, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn un o wyliau bwyd mwyaf Cymru, ac yn 2022 amcangyfrifiwyd bod 50,000 o bobl wedi mynychu’r digwyddiad.

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn cael ei harwain gan ferched y dref, ac mae Eleri Lövgreen yn enwi Buddug, brenhines yr hen lwyth Iceni, a arweiniodd wrthryfel yn erbyn lluoedd yr Ymerodraeth Rufeinig fel eilun iddi, tra bod Nici Beech yn cyfeirio at Non Parry, o’r grŵp Cymraeg Eden fel arwres, a hynny am rannu ei diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar.

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei gynnal eleni ar ddydd Sadwrn, Mai 13, ac mae’r ŵyl eisoes yn galw am wirfoddolwyr i helpu ar y diwrnod.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae’r ŵyl wedi dathlu rhai o’r merched na fyddai’r ŵyl yn bodoli oni bai amdanyn nhw.

Eleri Løvgreen

Eleri Løvgreen yw ysgrifennydd yr ŵyl.

Cafodd ei geni yn Nhrawsfynydd, lle treuliodd ei phlentyndod cynnar, cyn treulio dwy flynedd yng Nglanaman a gweddill ei phlentyndod yng Nghaerdydd.

Bu’n athrawes yn Ysgol y Faenol, Bangor cyn mynd yn ei blaen i sefydlu Cymen, cwmni cyfieithu yn nhref Caernarfon ar y cyd â’i ffrind, Carolyn Iorwerth.

Mae wedi byw yng Nghaernarfon ers 1982, a bu’n cynrychioli ward Menai ar Gyngor Tref Caernarfon hyd at y llynedd.

“Syniad Ann Hopcyn oedd yr Ŵyl Fwyd yn wreiddiol,” meddai.

“Roedd hi wedi gweld cyflwyniad gan un o wirfoddolwyr Gŵyl Fwyd Casnewydd, ac mi wnaeth ei wahodd i roi cyflwyniad i Gyngor Tref Caernarfon.

“Yn deillio o syniad Ann, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a fynychwyd gan nifer o bobol, ac yn y cyfarfod hwnnw etholwyd Nici’n gadeirydd.”

Ann Hopcyn

Mae Ann Hopcyn yn cynrychioli ward Menai ar Gyngor Tref Caernarfon hefyd.

Daw’n wreiddiol o Abertridwr ger Caerffili, ond mae hi wedi byw yng Nghaernarfon ers 1985, ac wedi dysgu yn Ysgol yr Hendre yn y dref ac yn Ysgol Gwaun Gynfi gerllaw.

Bu’n ddarlithydd ar gwrs hyfforddi athrawon cynradd ym Mhrifysgol Bangor am 24 mlynedd.

Mewn digwyddiad yn ymwneud ag adfywio trefi marchnad y cafodd hi’r ysbrydoliaeth ar gyfer yr ŵyl fwyd.

“Dyma feddwl, ‘Gallai hyn weithio yng Nghaernarfon, mae gennym ni ddigonedd o gynhyrchwyr bwyd yn lleol!’,” meddai.

Nici Beech

Mae Nici Beech, cadeirydd yr Ŵyl, hefyd yn gynrychiolydd ar Gyngor Tref Caernarfon.

Cafodd ei geni yng Ngallt Melyd, pentref rhwng Prestatyn a Dyserth yn Sir Ddinbych, a’i magu yn Llandrillo-yn-Rhos a Throfarth, Llangernyw.

Cafodd ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, ond mynychodd ysgolion Cymraeg a datblygodd ddiddordeb byw yn y sîn roc Gymraeg.

Graddiodd o’r brifysgol yn y gyfraith yn 1992 cyn gweithio yn y diwydiant teledu a dod yn gyfarwyddwr artistig Galeri Caernarfon yn 2017.

“Dw i wedi trefnu gigs a gwyliau yn wirfoddol ers fy arddegau,” meddai.

“Dwi’n meddwl imi gael fy ethol yn gadeirydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn bennaf oherwydd fy mhrofiad yn trefnu Gŵyl Arall, gŵyl ddiwylliannol a chelfyddydol yng Nghaernarfon.

“Mae’r tîm sy’n rhan o’r pwyllgor yn ymroddedig iawn ac yn mwynhau’r gwaith trefnu sy’n digwydd drwy’r flwyddyn.

“Mi gychwynodd pethau gyda chystadleuaeth dylunio logo ar gyfer yr Ŵyl.

“Lansiwyd yr ŵyl mewn gwirionedd flwyddyn cyn ei chynnal yn gyntaf, mewn digwyddiad bach i wobrwyo enillydd y gystadleuaeth logo.

“Cafwyd adloniant gan Gwibdaith Heb Frân, ac roeddan ni wedi gosod naws yr ŵyl fel un Gymraeg, lleol ac agos-atoch.

“Ychydig a wyddem bryd hynny y byddai’r ŵyl gyntaf, gyda 50 o stondinau a 1,000 o ymwelwyr yn tyfu i fod y maint y mae hi rŵan, ac er ein bod ni wedi dysgu lot fawr ers hynny, ’dwi’n falch bod y naws, a’r brwdfrydedd i gydweithio wrth drefnu yn parhau.”