Wel, dyma ni wedi cyrraedd gwyliau’r ’Dolig, a’r storm perffaith wedi setlo o’n cwmpas. Mae costau tanwydd a bwyd wedi cynyddu’n frawychus, tra bod y tywydd wedi troi’n ffiaidd o oer, a ninnau mo’yn mwynhau gwledd o trîtiau tymhorol. Sefyllfa lawn croesebau anffodus.

Ac i’r sawl ohonom sydd dal wrthi’n addasu ein bywydau o fod ar gyflogau llawn i fod yn llawrydd, mae hi’n fwy o her fyth.

Felly mae pob tric neu syniad am sut i safio pres yn wybodaeth werthfawr iawn. Mwynheais yn fawr erthygl Medi Wilkinson am sut i wneud i’r wledd Nadolig fynd ymhellach.

Calonogol oedd atgoffa fy hun o faint rwy’n mwynhau sbarion ‘Dolig – y twrci wedi ei rostio, stwffin, a saws llugaeronen… mmmm! A hefo bach o caws, ar y tôsti deep fill, wel, does dim byd gwell, nag oes?

Cynhwysion
Cynhwysion tosti sbarion ’Dolig

Yn wir, dwi wedi bod yn edrych ymlaen at fy nhôsti sbarion ‘Dolig yn fwy na’r wledd swyddogol ei hun! Ond mi roedd yna ystyriaeth ychwanegol gen i yn bersonol – pa fara di-glwten fyddai orau ar gyfer dal yr holl gynhwysion?

Ceisio osgoi glwten…

Rai blynyddoedd yn ôl bellach, cafodd un o fy nghefndryd ddiagnosis o glefyd seliag, a hynny ar ôl blynyddoedd o fod yn gynyddol sâl hefo nifer o symptomau poenus. Erbyn iddyn nhw ddarganfod beth oedd yn bod arni, mi roedd hi wedi cael sbel yn yr ysbyty.

Ar y pryd, mi roeddwn i hefyd wedi bod yn gynyddol sâl, hefo symptomau sy’n dueddol o gael eu hesbonio’n feunyddiol fel arwydd o straen, pryder ac iselder, megis blinder, cyhyrau poenus, chwysu, cur pen a.y.b. (dyma oedd un o brif themâu fy noethuriaeth).

Ni wnes y cysylltiad hefo diagnosis fy nghyfnither nes i fi a’r gŵr fynychu digwyddiad lle roedd y math yma o salwch a diagnosis yn cael ei drafod.

Y clincher i mi oedd y sôn am ‘syndrom coesau aflonydd’ (restless leg syndrome) gan fod glwten yn medru amharu ar allu y corff i amsugno haearn.

Penderfynais drïo mynd heb glwten ac mi syfrdanais faint wnaeth e wahaniaeth i sut roeddwn yn teimlo. Roedd hyn yn cynnwys pethau annisgwyl megis llai o ecsema ‘flare ups’ a gwella ar symptomau dwi wedi byw hefo ers flynyddoedd, megis gor-syched (polydypsia), gordroethi (polyuria), a polypagia (dwi wedi cael nifer o brofion am glefyd siwgr dros y blynyddoedd, a chlefydau tebyg, i gyd yn negyddol).

Nawr ‘te, dwi ddim yn yr un ball park â fy nghyfnither o gwbwl, mae hi’n cael yn sâl iawn os yw hi’n cael olion bach glwten. Dwi dal yn medru’i fwyta fo a bod yn weddol ocê, sy’n handi os taw dim ond bara arferol sydd ar gael, er mwyn osgoi symptomau chwysu, teimlo’n dizzy, yn gyfoglyd, wedi drysu, ac yn ddigon dreng i hylosgi’n ddigymell!

Ar y llaw arall, rwy’ wedi sylwi ar y symptomau yn gwaethygu yn ddiweddar. Yn ôl yn ‘Steddfod Tregaron, lle na fu llawer o ddewis di-glwten, wnes i fwyta pizza. Teimlais yn eithafol o oer ac yn blinedig, felly es i am nap yn fy mhabell, a phan ddeffrais, roeddwn yn stiff fatha John Carter pan ddeffrodd yn ôl yn yr ogof.

Yn wir, am rai eiliadau brawychus, doeddwn i methu cofio pwy oeddwn i, heb sôn am le oeddwn i! Felly dwi’n dueddol o geisio osgoi glwten os yw’n bosib.

Dewis bara di-glwten

Rhaid dweud, dwi yn cyfri fy hun yn ffodus tu hwnt i fyw mewn cyfnod lle rydym yn deall am glwten ac wedi creu ryseitiau a nwyddau addas i’w osgoi. Yn amlwg mae’n bosib gwneud bara heb-glwten eich hun… a dwi dal wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am y rysáit berffaith (os oes gennych un, plîs rhannwch hi hefo fi!)

Yn y cyfamser, mae sawl torth ar gael i’w phrynu o’r archfarchnadoedd sydd, erbyn hyn, yn dueddol o fod ag adran arbennig lle maen nhw’n cadw’r bwydydd hyn i gyd hefo’i gilydd.

Mae cwmni ‘Genius’ yn gwneud lot o nwyddau ardderchog, gan gynnwys fy hoff fara heb-glwten, Handcrafted Tiger Loaf.

Mae cwmni ‘Promise’ hefyd yn gwneud tafellau bara gwyn, sydd yn dda iawn ar gyfer brechdanau.

Ac mae’r archfarchnadoedd eu hunain wedi dechrau gwneud nwyddau bara da, megis byns gwyn yn Tesco.

Fodd bynnag, ar ôl ymchwil helaeth hefo fy mheiriant tôsti deep fill ffyddlon, medraf gadarnhau taw’r bara gorau ar gyfer gwneud tôsti sbarion ‘Dolig yw’r ‘seeded loaf’ gan gwmni Schär.

Mae’r tafellau’n fach, ond felly yn ffitio’n dda yn y peiriant, ac maen nhw’r siâp iawn, yn hytrach nag yn grwn fel y ‘Tiger loaf’. Tydy hi ddim yn friwsionllyd, ac felly’n dal at ei gilydd yn well dan straen yr holl lenwadau. Ac yn bwysicach na dim, tydy hi ddim yn blasu fatha sebon!

Gobeithio y bydd y wybodaeth yma o fudd i rai ohonoch, gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!