Mae Clerc Cyngor Tref Caernarfon yn gobeithio y gall goleuadau Nadolig tref Caernarfon godi calonnau’r gymuned yng nghanol yr argyfwng costau byw.

Chris Roberts y cogydd fydd yn troi goleuadau coeden Nadolig Caernarfon ymlaen ar y Maes am 6 o’r gloch nos fory (nos Iau, Rhagfyr 1) gyda charolau i ddilyn, ac mae’n dweud y bydd y profiad hwnnw’n “cŵl”.

Am 5.30yh, bydd pobol yn cerdded i’r Maes o’r Cei Llechi a bydd band Ysgol Syr Hugh Owen yno.

Bydd dwy garol yn cael eu canu, O! Deuwch Ffyddloniaid ac I Orwedd Mewn Preseb, a bydd gwasanaeth yng Nghapel Seilo efo ysgolion cynradd lleol.

Cyngor Tref Caernarfon sydd yn talu am y goeden a’r addurniadau eraill.

‘Nadolig anodd i bawb’

Wrth siarad â golwg360, dywed Siôn Evans, Clerc Cyngor Tref Caernarfon, y “bydd y Nadolig yma yn anodd i bawb”.

“I rai yn y gymdeithas, bydd yn waeth byth,” meddai.

“Mae’r Nadolig yma’n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw.

“Mae pobol yn gwneud y gorau gallan nhw efo beth sydd ganddynt.

“Bydd yn codi calon pobol efo’r goeden, ond mae’n mynd i fod yn Nadolig anodd.

“Mae pobol yn hoffi gweld y goleuadau Nadolig.

“Mae pobol yn dod o lefydd eraill i’w gweld.

“Rydym am i bawb fwynhau’r goleuadau Nadolig.

“Dewch i weld nhw.”

Cyfri i lawr at y Nadolig

Mae Chris Roberts, sy’n gymhorthydd gofal wrth ei waith, yn credu bod troi’r goleuadau ymlaen yng Nghaernarfon yn bwysig.

“Mae o’n grêt yndi,” meddai wrth golwg360.

“Y cyntaf o Ragfyr ydy’r countdown i’r Nadolig.

“Ers i fi fod yn blentyn, rwy’n gweld y goleuadau Nadolig yng Nghaernarfon yn mynd ar.

“Hwnna ydi’r offical countdown i’r Nadolig i fi.

“Rwy’n hapus iawn i droi goleuadau Nadolig Caernarfon ymlaen. Nid oeddwn erioed yn meddwl byddwn yn troi goleuadau Nadolig Caernarfon ymlaen.

“Rwy’n mynd a Steffan fyny efo fi hefyd.

“Mae gennyf day job fel support worker.

“[Steffan] ydi’r person sydd yn caru goleuadau Nadolig fwy na neb yn y byd.

“Mae o’n troi nhw ymlaen efo fi.”

Effaith cael teulu ar y Nadolig

“Rwy’n edrych ymlaen at y Nadolig,” meddai wedyn gan egluro sut mae ei fywyd wedi newid a sut effaith mae hyn wedi cael ar y Nadolig.

“Mae gennyf blant rŵan, Lachlan sydd yn dair, Tanwen sydd yn un a hanner, ac mae Amy fy mhartner yn disgwyl plentyn arall.

“Mae o’n newid dy bersbectif ar fywyd pan ti’n cael plant.

“Mae mab fi sy’n dair a hanner yn deall y Nadolig yn iawn rŵan.

“Rwy’n buzzing am y Nadolig ac edrych ymlaen at gael bwyta.”

Effaith Covid ar y Nadolig

A beth am effaith yr argyfwng costau byw ar y Nadolig y flwyddyn yma?

“Mae’r argyfwng costau byw wedi’i gwneud hi’n anodd i lawer o bobol a llawer o deuluoedd, yn enwedig yn y run up i’r Nadolig, meddai.

“Mae o wedi bod yn anodd i lawer o bobl.

“Rydym yn byw mewn amser anodd.

“Dydy o ddim ond y Nadolig.

“Mae pobol yn gorfod gwneud toriadau across the board.

“Mae’r Nadolig yn amser anodd iawn os ti ddim efo pres.”

Diwedd ar y cyfnod clo

Mae Chris Roberts yn credu bod y Nadolig wedi mynd yn ôl i’r arfer ar ôl y cyfnod clo.

“Mae pawb yn cael mynd i dai ei gilydd rŵan,” meddai wedyn.

“Roedd teuluoedd yn gorfod gwahanu.

“Amser crazy oedd o.

“Dydy teuluoedd ddim yn gorfod gwahanu rŵan.

“Rwy’n meddwl bod pethau yn ôl i normal ond bod yr argyfwng costau byw yn rywbeth rydym yn gorfod delio efo rŵan.

“O ran cael pobol ’nôl at ei gilydd, mae o nôl i normal.”