Mae arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Tregaron yn annog pobol i fentro draw i Neuadd Goffa Tregaron heno (nos Lun, Mawrth 13) ar gyfer noson arbennig o adloniant.

Mae’r noson yng nghwmni Llangwyryfon a Bro’r Dderi am 7.30yh, a phob un o’r clybiau yn cynnal hanner awr o adloniant yr un.

“Dylai unrhyw un sydd mo’yn ddod i’r nosweithiau yma,” meddai Nerys Williams wrth golwg360.

“Mae croeso i bawb.”

Nos Fercher (Mawrth 15), bydd Noson Adloniant Clybiau Ffermwyr Ifanc yng nghwmni Clwb Ffermwyr Ifanc Tregaron, Trisant a Thalybont yn Neuadd Llanafan am 7.30yh.

Mae pob un o gast Tregaron o dan 16 oed, yn ôl Nerys Williams.

Mae’r Ffermwyr Ifanc wedi cael cymorth Neuadd Llanafan, ac felly bydd yr arian o’r ddau ddigwyddiad yn mynd tuag ati.

“Neuadd Llanafan sy’n cynnal y gyngerdd, a dyna pam bod yr elw yn mynd atyn nhw,” meddai Nerys Williams.

“Dim ni sy’n ei gynnal.

“Maen nhw wedi gofyn i Glwb Ffermwyr Ifanc Tregaron, Trisant a Thalybont fynd atyn nhw.”