Dylai’r cyflenwad dŵr ddod yn ôl i ran fwyaf i bobol yn y gorllewin a’r canolbarth erbyn diwedd y dydd (Rhagfyr 20), yn ôl Dŵr Cymru.

Er hynny, mae’r dŵr wedi diflannu yn Aberaeron eto heddiw ar ôl dychwelyd neithiwr, ac yn ôl y cynghorydd lleol mae pobol yn dechrau poeni.

Dydy pobol yn yr ardal sydd ar restr blaenoriaeth Dŵr Cymru heb dderbyn dŵr, yn ôl Elizabeth Evans, cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros ward Aberaeron ac Aberarth.

Mae’r rhestr flaenoriaeth yn cynnwys pobol sydd gan fabanod, yn dioddef o salwch sy’n gofyn am ddŵr, yn cael anawsterau gyda golwg neu eu clyw, neu’n oedrannus neu ag anableddau.

Dylai pobol ar y rhestr blaenoriaeth dderbyn dŵr wedi’i botelu os oes problemau â’r cyflenwad.

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron wedi gorfod cau eto tuag amser cinio heddiw, a hithau newydd ail-agor, a byddan nhw ar gau am weddill y tymor.

Ers y penwythnos, mae miloedd o dai, yng Ngheredigion a Sir Gâr yn bennaf, wedi bod heb ddŵr ar ôl i’r tywydd oer achosi difrod i bibelli.

‘Dechrau becso’

Y disgwyl yw y bydd y dŵr yn ôl yn ardal Aberaeron heno, ond dywedodd Elizabeth Evans ei bod hithau a thrigolion lleol yn “ddechrau becso nawr”.

“Mae yna lot o bobol mas yna heb ddŵr i yfed, ac ar hyn o bryd dw i’n chaso’r ffaith nad ydy Dŵr Cymru wedi dosbarthu yn Aberaeron o’u rhestr priority,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n cysylltu nawr gyda’r Cyngor am help i ddosbarthu dŵr.

“[Rydw i’n] dechrau becso nawr ambyti’r sefyllfa, yn enwedig am y priority list, pobol mewn oedran ac ati.

“Rydyn ni’n trio helpu pobol achos maen nhw’n becso. Dw i newydd gael neges nawr gan fenyw gyda babi, sydd ar y priority list a heb gael dŵr.”

‘Angen diweddariad’

Bydd cynghorwyr Ceredigion yn cyfarfod am bump o’r gloch heno i gael diweddariad ar y sefyllfa, ond ar hyn o bryd “does dim lot yn dod mas o Dŵr Cymru yn anffodus”, medd y cynghorydd.

“Dw i’n aros nawr i weld os ydy Dŵr Cymru’n mynd i ddosbarthu dŵr, achos roedden nhw wedi addo neithiwr i ddod â dŵr lawr i Geredigion.

“Diweddariad, dyna be sydd ei angen ar hyn o bryd.”

Mae gan ddwy stryd yn y dref ddŵr, ac maen nhw wedi agor eu tapiau i bobol leol allu galw draw i gael dŵr.

“Mae hwnna’n help mawr. Heb law amdanyn nhw, dw i’n credu y bydden ni’n rili stryglan.”

‘Bod yn ystyriol’

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro am y diffyg cyflenwad, ac mewn diweddariad brynhawn heddiw dywedodd y cwmni eu bod nhw’n dal i weithio’n galed i adfer cyflenwadau yng Ngheredigion.

Yn y cyfamser, mae ganddyn nhw orsafoedd dŵr yn Llandysul a Chastellnewydd Emlyn.

“Mae dŵr potel ar gael ynghyd â thanc statig,” meddai.

“Gofynnwn i gwsmeriaid ddod â chynhwysydd gyda nhw i’w lenwi.

“Dylid nodi y bydd angen berwi’r dŵr yma cyn ei yfed.

“Gofynnwn yn garedig i gwsmeriaid i fod yn ystyriol o bobol eraill ac i beidio â chymryd mwy nag sydd ei angen.

“Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni weithio i adfer cyflenwadau.”

“Diffyg cyfathrebu” gan Dŵr Cymru wrth i broblemau â’r cyflenwad barhau

Elin Wyn Owen

“Dw i’n gwybod bod hyn yn argyfwng a bod neb wedi gweld o’n dod, ond dylai fod cynllun wedi bod mewn lle,” meddai un ar y rhestr blaenoriaeth