Mae sawl tân gwair sylweddol wedi effeithio ar ardal Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd dros y 24 awr ddiwethaf.

Ar un pen o’r dyffryn, roedd fflamau i’w gweld ar Fynydd Mawr – sydd bron i 700 metr o uchder – tra ar y pen arall, roedd Mynydd Tal y Mignedd hefyd yn llosgi.

Pan ddechreuodd y tân yn gynnar prynhawn dydd Mercher (Mawrth 23), cafodd pedair injan dân eu galw fel rhan o’r ymateb i’r digwyddiadau.

Cafodd trigolion ym mhentrefi’r Fron, Rhosgadfan, a Rhostryfan rybudd gan Wasanaeth Tân y Gogledd i gadw eu ffenestri ynghau oherwydd bod mwg sylweddol yn chwythu ar draws yr ardal.

Roedd y frigâd dân yn nodi nad oedd y tanau mor sylweddol erbyn bore heddiw (dydd Iau, Mawrth 24).

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae adroddiadau wedi bod am danau yn sir Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Powys, a Chastell-nedd Port Talbot hefyd, yn ogystal â thân arall yng Nghwm Dulyn ger Llanllyfni yn Nyffryn Nantlle nos Fawrth (Mawrth 22).

 

Rhybudd

Does dim cadarnhad eto os oedd y tanau ddoe a heddiw yn rhai a gafodd eu cynnau’n fwriadol neu beidio.

Y tân ar Mynydd Mawr o Benygroes

Mewn datganiad ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol, mae Gwasanaeth Tân y Gogledd wedi amlinellu’r rheolau o gwmpas llosgi tir yn ddiogel.

“Caniateir llosgi grug, gwair, rhedyn ac eithin hyd at Mawrth 15 (neu hyd at Mawrth 31 mewn ardaloedd Ucheldir) ond rhaid bod gennych Gynllun Llosgi yn ei le i sicrhau eu bod yn llosgi’n ddiogel,” meddai’r gwasanaeth.

“Mae llosgi y tu allan i’r tymor llosgi yn erbyn y gyfraith a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

“Nid yn unig y mae rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol yn drosedd y gallwch gael eich erlyn amdani, ond mae hefyd yn rhoi pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn rhoi ein cymunedau mewn perygl posib.”

Llun: Camfa Eryri
Llun: Camfa Eryri