Dros y misoedd nesaf, bydd arddangosfa arbennig sydd wedi ei hysbrydoli gan y diwylliant a’r diwydiant llechi yn mynd ar daith drwy gymunedau chwarelyddol Gwynedd.

Cafodd tirweddau llechi’r gogledd orllewin eu dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym mis Gorffennaf y llynedd.

Ochr yn ochr â hynny, fe wnaeth Cyngor Gwynedd lansio prosiect LleCHI er mwyn cynnal gweithgareddau yn ymdrin â’r ardaloedd mewn ffordd greadigol.

Canlyniad rhai o’r gweithgareddau hynny yw’r arddangosfa newydd o waith celf, a gafodd eu creu ar y cyd rhwng disgyblion y sir a’r artist Catrin Williams.

Bydd modd eu gweld yn eu tro yn ardaloedd Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Blaenau Ffestiniog, a Phorthmadog, ond cartref yr arddangosfa ar hyn o bryd yw canolfan STORIEL ym Mangor, wedi iddi dreulio cyfnod yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

‘Dathlu’r hanes’

Yn ogystal â chynnwys gwaith gan ddisgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd, bydd cyfres o ffotograffau gan bobol ifanc yn ymddangos yn yr arddangosfa, gyda’r ffotograffydd Helen Walker Brown yn cynnig arweiniad ar yr elfen honno.

Y gwaith yn cael ei arddangos yn STORIEL

Fe soniodd Catrin Williams ychydig am y prosiect, a gafodd ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Gwynedd Greadigol.

“Drwy gwblhau’r prosiect, cafodd y disgyblion y cyfle i ehangu eu dealltwriaeth ac yna ymateb yn greadigol i’r diwydiant, diwylliant, a dylanwad y llechi,” meddai.

“O greithiau gweledol y dirwedd i’r bandiau pres – roedd ffocws y diddordeb yn newid o ardal i ardal.

“Yn Ysgolion Dyffryn Ogwen, Brynrefail, Y Moelwyn a Dyffryn Nantlle, roedd dylanwad cerddoriaeth y bandiau o ddiddordeb mawr.

“Hanes y porthladdoedd a hanes y llechi’n hwylio i bedwar ban byd oedd ffocws Ysgolion Eifionydd a Thywyn, tra gwnaeth Ysgol Uwchradd Brynrefail fynd draw i Amgueddfa Lechi Cymru er mwyn cael ysbrydoliaeth uniongyrchol ac am fewnbwn hanesyddol.

“Wrth ddatblygu’r wybodaeth, fe ddatblygodd gwaith creadigol hefyd. Y canlyniad oedd delweddau lliwgar aml-gyfrwng yn cyd-gynhyrchu a’i gilydd i greu un darn mawr o gelf mewn tecstilau i ddathlu hanes yr ardaloedd, y straeon, a’r diwylliant.”

‘Ymateb yn greadigol i’r dirwedd’

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, bod y profiad wedi bod yn “werthfawr” i’r bobol ifanc.

“Mae hon yn arddangosfa arbennig iawn lle cafodd pobol ifanc gyfle i ymateb yn greadigol i’r dirwedd lechi a chreu cyfanwaith rhwng cyfoedion yr ardaloedd,” meddai.

“Roedd yn gyfle i ddisgyblion o ysgolion Dyffryn Ogwen, Brynrefail, Dyffryn Nantlle, Eifionydd, y Moelwyn, ac Ysgol Uwchradd Tywyn gydweithio gyda’r artist Catrin Williams ar y prosiect.

“Rydw i’n siŵr ei fod wedi bod yn brofiad gwerthfawr i’r disgyblion, ac mae’n braf iawn gwybod y bydd yr ysgolion yn derbyn copi o’r gwaith ar ffurf panel gwybodaeth i gadw fel cofnod o’r prosiect.”

Bydd yr arddangosfa yn symud ymlaen o Fangor i dde Gwynedd ymhen ychydig wythnosau.

O 22 Mawrth hyd at 13 Mai, lleoliad yr amgueddfa fydd yr Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul yn Nhywyn.

Ardaloedd llechi Gwynedd i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd

Mae UNESCO wedi cadarnhau’r cais mewn cyfarfod heddiw, 28 Gorffennaf