Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau y bydd eu holl gyfleusterau yn ailagor ddydd Llun nesaf (Ionawr 31).

Fe wnaethon nhw gyhoeddi yn gynharach yn y mis bod y gwaith adfer yng Nghanolfannau Hamdden Aberteifi a Phlascrug, a Phwll Nofio Llanbed “wedi ei gwblhau”, a’u bod nhw’n barod i groesawu defnyddwyr yn ôl.

Oherwydd bod cyfyngiadau Covid bellach wedi eu codi, mae modd i’r cyfleusterau hynny, yn ogystal â Chanolfannau Hamdden Aberaeron a Llanbed a Neuadd Chwaraeon Penglais, agor eu drysau unwaith eto.

Pryderon

Roedd nifer wedi mynegi pryderon am y ffaith fod rhai cyfleusterau yn parhau i fod ar gau, gan gynnwys pwll nofio Canolfan Hamdden Plascrug sydd wedi bod ar gau ers dwy flynedd.

Mae hynny wedi gorfodi sawl un yn Aberystwyth i deithio’n bellach er mwyn cael gwersi nofio i’w plant.

Dywed y Cyngor fod y pwll wedi bod ynghau oherwydd bod “gwelliannau wedi’u gwneud”, ar ôl i ysbyty maes Covid-19 gael ei ddatblygu yn y cyfleuster dros dro.

Mae’r gwelliannau i’r ganolfan yn cynnwys llawr newydd yn y neuadd chwaraeon, uwchraddio goleuadau ar y cyrtiau sboncen a gosod Uned Trin Aer newydd.

Cafodd goleuadau a lloriau newydd eu gosod yn y ganolfan hamdden yn Aberteifi hefyd.

Cyfyngiadau ar waith

Er y bydd y cyfleusterau yn agor eto, mae’r Cyngor yn dweud y bydd rhai cyfyngiadau yn parhau i fod ar waith.

“Bydd natur gyswllt rhai o’r gweithgareddau chwaraeon yn cael eu cyfyngu i’r awyr agored am y tro er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws,” meddai llefarydd.

Hefyd, bydd angen archebu pob gweithgaredd ymlaen llaw, a bydd modd gwneud hynny o Ionawr 27.

Mae’r cyfleusterau yn mynd i fod yn gweithredu ar gapasiti llai, a bydd yn rhaid i ymwelwyr gadw pellter cymdeithasol, ddefnyddio hylif diheintio dwylo, a gwisgo mwgwd am y tro.

“Mae’r Cyngor yn cydnabod ei bod wedi bod yn gyfnod heriol i bawb, ac edrychwn ymlaen at groesawu trigolion Ceredigion yn ôl i’n cyfleusterau a rhoi cyfle iddynt fod yn gorfforol egnïol unwaith eto,” meddai’r llefarydd wedyn.

“Rhaid i ni i gyd barhau i fod yn wyliadwrus gan nad yw’r coronafeirws wedi diflannu.”