Mae cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo i wneud diwygiadau i faes parcio Pen-y-pas yn Eryri.

Daw hyn ar ôl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n gyfrifol am y cyfleusterau, weld tagfeydd yn yr ardal, gan fod nifer yn penderfynu parcio ar ochrau ffyrdd.

Roedd yr ymchwydd mewn ymwelwyr yn golygu bod y cyfleusterau parcio oedd ar gael yn annigonol, gyda cheir yn cael eu troi i ffwrdd mewn ambell i leoliad.

Mae maes parcio Pen-y-pas yn boblogaidd iawn gan ei fod wrth droed yr Wyddfa, ac mae llwybrau’r Mwynwyr a Pyg i gopa’r mynydd yn tarddu yno.

Fe gafodd y cais ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio’r Parc Cenedlaethol mewn cyfarfod fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 19).

Cynlluniau

Mae eisoes yn rhaid i deithwyr ragarchebu lle yn y maes parcio ym Mhen-y-pas cyn cyrraedd.

Fel rhan o’r cynlluniau newydd, bydd bariau’n cael eu gosod yn y maes parcio pan fydd yn llawn, gydag arwyddion yn rhybuddio nad oes modd i ymwelwyr gael lle yno heb archebu.

Bydd camerâu Cydnabod Plât Rhif Awtomatig, neu ANPR, yn adnabod platiau rhif cerbydau, a bydd y bariau yn codi os yw’r car wedi rhagarchebu.

Roedd rhai yn pryderu y byddai hyn yn achosi ciwiau wrth i geir gael eu troi i ffwrdd o’r safle, ond mae lle i gredu y bydd arwyddion yn ddigon i atal pobol rhag gyrru yno yn y lle cyntaf.

Doedd dim gwrthwynebiad i’r cynlluniau gan y cyngor cymuned lleol nac yr awdurdod priffyrdd.

‘Cymedroli’r sefyllfa’

Ceir wedi parcio ar ffordd yr A4086

 

Nodwyd yn y cais fod angen i’r sefyllfa gael ei “chymedroli”, rhag ofn y bydd tagfeydd tebyg i’r rhai oedd yno drwy gydol Haf 2020 a 2021.

“Mae’r maes parcio hwn yn fan cychwyn hynod boblogaidd i gerddwyr gael mynediad i’r llwybrau troed sy’n esgyn i’r Wyddfa,” meddai’r cais.

“Ar hyn o bryd gall y maes parcio letya tua 70 o gerbydau sy’n llenwi’n gyflym iawn yn ystod cyfnodau prysur ac yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin, talu ac arddangos.

“Gyda’r maes parcio hwn yn llawn, yna mae tueddiad i ymwelwyr barcio’n ddiwahân ar y briffordd gyhoeddus er anfantais i lif rhydd cerbydau ac o ganlyniad ddiogelwch ar y briffordd ac i ansawdd gweledol yr ardal.

“Bwriad y cais hwn yw cymedroli’r sefyllfa hon trwy archebu lleoedd parcio yn Pen-y-pas ymlaen llaw ac arwyddion priodol sy’n nodi bod y maes parcio yn gweithredu ar sail archebu ymlaen llaw.

“Mae’r fenter hon yn rhan o gynllun ehangach ar gyfer rheoli parcio cerbydau o amgylch Yr Wyddfa.”