Mae menter gymdeithasol Antur Waunfawr yn cofio a dathlu bywyd eu sylfaenydd heddiw (dydd Mercher, 19 Ionawr).

Roedd R Gwynn Davies yn enedigol o’r pentref yng Ngwynedd ac wedi brwydro drwy gydol ei oes dros hawliau pobol anabl ledled Cymru.

Sefydlodd yr Antur ym 1984 wedi iddo ymddeol, a hynny yn hen siop y pentref a oedd yn arfer cael ei redeg gan ei ewythr.

Erbyn heddiw, mae’r ganolfan flaengar yn parhau i gynnig cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant, lles a gwirfoddoli i unigolion ag anawsterau dysgu.

Roedd Gwynn Davies hefyd yn rhan flaenllaw o’r ymdrechion i sefydlu ysgol arbennig Pendalar yng Nghaernarfon, sydd bellach yn croesawu dros 100 o ddisgyblion.

Cefndir

Dechreuodd ei yrfa ym maes y gyfraith, gan weithio gyda sawl cwmni ac mewn llywodraeth leol ar draws y gogledd orllewin.

Fe dorrodd yr Ail Ryfel Byd tra’r oedd yn hyfforddi i fod yn gyfreithiwr, ac oherwydd ei ddaliadau heddychlon, cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol a chael ei orfodi i weithio ar fferm yn Waunfawr.

Yn hanu o deulu sosialaidd, roedd o ei hun yn cyfaddef fod yr Ymerodraeth Brydeinig yn “air budr” ar yr aelwyd.

Ond yn dilyn genedigaeth ei ail blentyn, Gwion, a oedd ag anabledd dysgu, fe newidiodd trywydd ei fywyd yn llwyr.

R. Gwynn Davies

Ymgyrchu

Roedd ei brofiad personol gyda’i fab wedi ysgogi i Gwynn Davies ddod yn ymgyrchydd ar gyfer gwell darpariaeth i unigolion ag anawsterau dysgu.

Daeth yn ffigwr blaenllaw gyda Gwasanaeth Eiriolaeth a Chyngor Gogledd Cymru, yn ogystal â dod yn gyfarwyddwr ar SCOVO, sef corff Anabledd Dysgu Cymru erbyn heddiw.

Ar yr hyn fyddai ei ben-blwydd yn 102 oed, mae’r corff wedi edrych yn ôl ar ei gyfraniad, gan ddweud ei fod yn ffigwr “allweddol.”

“Yn ogystal â bod yn rhan o’r grŵp llywio gwreiddiol, parhaodd yn aelod o’r bwrdd am flynyddoedd lawer,” meddai Anabledd Dysgu Cymru.

“Mae ei gyfraniad wrth sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol yn eu cymunedau wedi newid ffordd o feddwl y gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi.”

Bu hefyd yn aelod gwisg wen o’r Orsedd ac fe enillodd fedal Syr T.H. Parry-Williams am ei wasanaeth diflino ar gyfer pobol ag anableddau dysgu.

Cafodd hefyd gynnig anrhydedd O.B.E. gan y Frenhines ym 1989, ond fe’i gwrthododd.

‘Ei etifeddiaeth yn parhau i gael ei deimlo’

O ddydd i ddydd, roedd diddordebau Gwynn Davies yn cylchdroi o gwmpas golffio, gwneud gwin, adeiladu dodrefn, cadw ieir, peintio a chynganeddu.

Dywedodd Mary Oliver o Mencap Conwy ei fod yn “ddyn hyfryd a chlyfar.”

“Roedd o’n ddyn diymhongar, a fynnai bod anableddau dysgu ar frig agenda pawb,” meddai.

“Bu’n ddylanwadol wrth sicrhau Strategaeth Cymru Gyfan, gan ffurfio nid yn unig Antur Waunfawr ond Grŵp Eiriolaeth Clwyd a Gwynedd ym Mryn y Neuadd.

“Mae ei ddylanwad a’i etifeddiaeth yn parhau i gael ei deimlo yn y gwasanaethau Anabledd Dysgu ar draws Gogledd Cymru.”