Mae’r gwaith cynnal a chadw mewn tri chyfleuster hamdden cyhoeddus yng Ngheredigion “wedi ei gwblhau”, yn ôl yr awdurdod lleol.

Daw hyn yn sgil cwynion ynglŷn â statws y pwll nofio yng nghanolfan hamdden Plascrug yn Aberystwyth yn ddiweddar.

Mae’r pwll hwnnw wedi bod ar gau ers bron i ddwy flynedd, adeg dechrau’r pandemig, sydd wedi gorfodi trigolion lleol y dref i deithio’n bellach i gael gwersi nofio.

Yn dilyn cyhoeddiad gan Gyngor Sir Ceredigion, mae Canolfannau Hamdden Aberteifi a Plascrug, yn ogystal â Phwll Nofio Llanbedr Pont Steffan, bellach mewn sefyllfa i ailagor.

Er hynny, dydy’r Cyngor ddim yn fodlon agor cyfleusterau hamdden i’r cyhoedd am y tro oherwydd cyfraddau Covid-19 yn y sir.

Cyfraddau ar eu huchaf

Ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion o’r feirws yng Ngheredigion ar ei lefel uchaf ers dechrau’r pandemig – 1,760 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth, sy’n cael “effaith ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen”. meddai’r Cyngor.

Bydd yr awdurdod yn adolygu’r sefyllfa ar ddiwedd y mis, a bydd unrhyw ddyddiadau ailagor sy’n cael eu pennu yn ddibynnol ar lefelau Covid-19 a chapasiti staffio.

Maen nhw’n pwysleisio y bydd mesurau perthnasol yn eu lle, gan gynnwys system archebu a phellter cymdeithasol, er mwyn lleihau lledaeniad y firws.

“Mae’r Cyngor yn cydnabod ei fod wedi bod yn gyfnod heriol ac anodd i bawb dan sylw,” meddai’r awdurdod mewn datganiad.

“Edrychwn ymlaen at groesawu trigolion Ceredigion yn ôl i’n cyfleusterau, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a rhoi cyfle i chi fod yn gorfforol egnïol unwaith eto.

“Cyhoeddir rhagor o wybodaeth maes o law.”

Bydd diweddariadau a gwybodaeth bellach yn cael eu darparu ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Ceredigion Actif.

Galw am ailagor pwll nofio yn Aberystwyth sydd wedi cau ers bron i ddwy flynedd

Gwern ab Arwel

Mae’r pwll wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020 oherwydd effeithiau’r pandemig a gwaith cynnal a chadw

Ailagor canolfannau hamdden Ceredigion yn gynt

Roedd y cyngor wedi dweud eu bod yn aros ynghau er mwyn lleihau’r risg o gynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn yr ardal