Mae nifer o drigolion lleol yn Aberystwyth yn bryderus gan fod un o byllau nofio wedi bod ar gau, bellach, ers bron i ddwy flynedd.

Dydy’r pwll nofio yng nghanolfan hamdden Plascrug heb ailagor ers i’r cyfleuster gau ar gyfer y pandemig ym mis Mawrth 2020.

Roedd bwriad i ddefnyddio rhannau o’r adeilad fel ysbyty maes i ymateb i achosion o Covid-19, ond does dim galw am hynny bellach ac mae pobol leol yn gofyn am ailagor y pwll.

Mae’n debyg bod gwaith cynnal a chadw angen ei wneud ar yr adeilad yn Plascrug ac mai dyna sy’n rhwystro’r pwll rhag ailagor ar hyn o bryd.

Ers y pandemig, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud trefniadau gyda Phrifysgol Aberystwyth i agor y pwll yn y fan honno i’r cyhoedd – ond mae nifer yn cwyno nad oes modd cynnal gwersi nofio yno.

Ar hyn o bryd, mae pob canolfan hamdden sy’n cael eu rheoli gan y cyngor sir ar gau beth bynnag yn dilyn cynnydd mewn achosion o Covid-19, a does dim diweddariad pellach ynglŷn â phryd y bydd modd i’r cyhoedd eu defnyddio eto.

‘Effaith fawr’

Mae’r cyn-Aelod Cynulliad Ceidwadol sy’n byw yn lleol, Lisa Francis, yn teimlo bod y Cyngor yn “llusgo’u traed” wrth ailagor y pwll nofio cyhoeddus ym Mhlascrug.

Dywed hi fod hynny wedi cael effaith fawr ar iechyd cyhoeddus y dref.

“Mae’n cael effaith fawr ar ddefnyddwyr cyson y pwll,” meddai Lisa Francis wrth golwg360.

“Dydy plant ifanc yn methu â chael gwersi nofio, a chael sgiliau sy’n gallu achub bywydau, yn ogystal â’r effaith ar iechyd.

“Mae’n rhaid inni gadw ein hunain mor ffit â rydyn ni’n gallu, gan fod y gwasanaeth iechyd o dan gymaint o bwysau, ac mae nofio yn ffordd hawdd o gadw’n ffit, yn enwedig os ydych chi dros bwysau, gyda diabetes math 2, neu broblemau symud. Rwy’n siŵr y byddai’r doctoriaid yn [Ysbyty] Bronglais yn cytuno â hynny.”

Cynnal a chadw

Mae’n debyg bod yr awdurdod wedi bod yn cynnal gwaith ar y pwll nofio, a bod hynny’n cymryd yn hirach na’r disgwyl.

“Pa mor hir maen nhw’n bwriadu cadw’r sefyllfa fel mae hi?” meddai Lisa Francis.

“Dywedodd yr awdurdod lleol bod y pwll am gael ei agor ar ddiwedd mis Medi. Cafodd hynny ei ohirio tan ar ôl y Nadolig, ond does dim diweddariad pellach wedi bod ers hynny.

“Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen yno, ond does dim dyddiad terfyn eto.

“Dw i’n dechrau ystyried a ydy hyn yn wleidyddol ac os ydy e’n gyfleuster maen nhw eisiau ei ailagor.

“Os ydy’r gost yn gymaint o rwystr, yna mae’n rhaid iddyn nhw gyfaddef hynny i bobol, fel ein bod ni’n gallu gwneud trefniadau eraill.”

Pwll y brifysgol

Mae’r awdurdod lleol wedi sicrhau cytundeb gyda’r Brifysgol i agor eu pwll nofio nhw i’r cyhoedd – ond mae rhai’n mynnu nad yw’r pwll hwnnw yr un mor hygyrch.

“Mae myfyrwyr eisiau defnyddio’r pwll hwnnw,” meddai Lisa Francis

“Dydy parcio ddim yn hawdd yno, a dydy e ddim yn bwll addas i ddysgu plant ifanc, gan nad oes pen bas yno.

“Tan yn ddiweddar, roedd meysydd carafanau lleol yn cynnig eu pyllau i bobol i’r cyhoedd am bris.

“Os ydyn nhw wedi gallu gwneud bargen â’r brifysgol, pam ddim siarad â’r sector breifat ynghylch cynnig eu gwasanaethau nhw i bobol, a chynnig talu eu biliau trydan nhw er enghraifft.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion am ymateb.