Mae ASau Arfon, Siân Gwenllian a Hywel Williams, wedi lansio apêl i godi arian at elusen cancr plant lleol dros y Nadolig.

Nod elusen Gafael Llaw, sy’n cefnogi plant â chancr yng Ngwynedd a Môn, yw codi arian ar gyfer ysbytai a gwasanaethau sy’n darparu ar gyfer dioddefwyr yn y ddwy sir, fel Ward Dewi Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 2013 gan griw o wirfoddolwyr yn ardal Caernarfon, yn dilyn pryderon yn lleol bod dim digon o gefnogaeth i blant a phobol ifanc yr ardal oedd yn dioddef â chancr.

Ers hynny, maen nhw wedi codi cannoedd ar filoedd o bunnoedd a chynnal nifer o weithgareddau sydd wedi derbyn sylw cenedlaethol, gan gynnwys Tour de Cymru – taith feicio 650 milltir o gwmpas ysbytai plant Cymru.

Yn ogystal â gweithgareddau a digwyddiadau’r elusen ei hun, mae mudiadau, cymdeithasau ac unigolion lleol wedi trefnu ymgyrchoedd i fodi arian i Gafael Llaw, ac eleni mae ASau lleol Arfon hefyd am godi arian dros y Nadolig.

‘Amhrisiadwy’

Wrth sôn am yr ymgyrch i godi arian, dywedodd Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, fod cefnogaeth yr elusen yn hanfodol, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae’r gwaith mae Gafael Llaw yn ei wneud yn amhrisiadwy wrth leddfu gofidion plant, pobol ifanc a’u teuluoedd ar un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn eu bywydau,” meddai.

“Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Gafael Llaw wedi codi arian i wella gwasanaethau, uwchraddio ciwbiclau ar wardiau, a gwella cyfleusterau fel ardaloedd chwarae ac ystafelloedd asesu.

“Mae wedi bod yn ddwy flynedd heriol i elusennau fel Gafael Llaw, a gwn fod y tîm yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad at eu gwaith pwysig.”

‘Agos iawn at galonnau pobol leol’

Ychwanegodd Hywel Williams, yr Aelod Seneddol dros Arfon: “Mae gwaith Gafael Llaw yn agos iawn at galonnau pobol leol sydd wedi wynebu’r amgylchiadau erchyll o gael plentyn yn mynd drwy driniaeth cancr.

“Roedd ymgyrch codi arian Plaid Cymru Arfon y llynedd yn llwyddiant, ac mae’r Nadolig yn gyfle inni estyn llaw at y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

“Rwy’n siŵr y bydd pobl Arfon yn hael yn eu cyfraniadau at achos mor deilwng.”

Mae Gafael Llaw hefyd yn codi arian at yr elusen genedlaethol, Young Lives vs Cancer, sef prif elusen cancr y Deyrnas Unedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Ar gyfer eu hymgyrch, mae’r aelodau wedi gosod targed o £300, ac mae modd cyfrannu ar eu tudalen Just Giving.