Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Lledrod yng Ngheredigion wedi derbyn gwobr o £600 ar ôl ennill cystadleuaeth goginio yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni.

Daeth Alaw James a Megan Williams i’r brig yn y gystadleuaeth, a oedd yn cael ei threfnu ar y cyd gan brosiect Cywain a’r Ffermwyr Ifanc, er mwyn cefnogi cynnyrch bwyd a diod lleol.

Roedd yn rhaid i’r holl gystadleuwyr greu bwydlen dau gwrs a oedd wedi ei ysbrydoli gan gynnyrch o Gymru, gyda chyllid o ddim ond £30.

Ar ôl cynllunio eu prif gwrs ac un ai cwrs cyntaf neu bwdin, roedd eu bwydlen yn cael eu beirniadu gan banel arbennig, gan gynnwys cyflwynydd ffermio Meinir Howells a’r cogydd Chris Summers.

Gadawodd y prydau buddugol gymaint o argraff ar y cogydd, fe fydd e nawr yn eu cynnwys ar y fwydlen yn ei fwyty yng Nghaernarfon, Y Crochan.

“Roeddwn i wrth fy modd yn gweld syniadau aelodau’r CFfI ac rwy’n methu aros i goginio’r pryd bwyd buddugol a’i weini iddynt yn Y Crochan,” meddai Chris Summers.

Mentora

Yn ail yn y gystadleuaeth, ac yn derbyn £250 oedd Emma Jones a Bethan Jones o CFfI Erwyd, Brycheiniog.

Roedd Elinor Jones o CFfI Chwitffordd, Clwyd, hefyd yn derbyn £150 am orffen yn drydydd, a bydd y pump a ddaeth i’r brig yn derbyn sesiwn fentora i ddatblygu eu huchelgeisiau entrepreneuraidd ymhellach.

“Rydym wedi mwynhau gweithio gyda Cywain ar y gystadleuaeth hon, ac roedd yn wych gweld y cyfan yn dod at ei gilydd yn y Ffair Aeaf,” meddai Caryl Hâf, Cadeirydd CFfI Cymru.

“Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu cydweithio i ddatblygu mentrau yn y dyfodol sy’n annog entrepreneuriaeth ymhlith ein haelodau a chodi ymwybyddiaeth o fwyd a diod o Gymru.”

Dyma’r fwydlen fuddugol: 

Cwrs cyntaf: Bruschetta gyda Bacwn, Cig Oen a mêl wedi’i weini gyda siocled tywyll moethus a chaws Perl Las.

Prif gwrs: Ffesant mewn saws eirin mair a Phort gyda tatws rosti, cnau castan a chymysgedd o fresych coch a gwyrdd a llysiau ‘chard’.