Mae ystafelloedd dianc cyntaf Bangor, sy’n cael eu rhedeg gan ddau frawd, wedi agor eu drysau am y tro cyntaf.

Fe wnaeth Xscape Rooms Bangor agor yn swyddogol ym mis Tachwedd, gyda Jordan a Nick Williams yn rhedeg y busnes yn hen swyddfeydd y Cyngor ger y Stryd Fawr.

Fel rhan o’r fenter, mae dwy swydd newydd wedi cael eu creu drwy gyllid o £10,000 o gronfa entrepreneuriaeth canol tref y Llywodraeth, sy’n cael ei threialu yn Bae Colwyn, Bangor, y Rhyl a Wrecsam yng ngogledd Cymru.

Roedden nhw hefyd wedi derbyn benthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn adeiladu a gosod y dechnoleg a’r offer ar gyfer y fenter newydd.

Mae modd archebu tocynnau i’r ystafelloedd dianc ym Mangor nawr ar www.xscapebangor.co.uk, gyda’r drysau ar agor rhwng dydd Mercher a dydd Sul.

‘Methu aros’

Penderfynodd Jordan a Nick Williams ddechrau’r fenter busnes oherwydd eu hangerdd at Fangor ac at bosau.

“Rydym yn aml wedi mwynhau Escape Rooms wrth ymweld â threfi a dinasoedd eraill felly roedd yn gwneud synnwyr llwyr i ni lansio ein menter ein hunain yma ym Mangor gan nad oes unrhyw beth tebyg iddo yma,” meddai Jordan Williams.

“Mae’r cyllid wedi ein galluogi i lenwi bwlch yn y farchnad a chreu gweithgaredd hwyliog a fforddiadwy i bobol o bob oed ei fwynhau.

“Rydyn ni wedi dylunio’r holl gemau ein hunain ac yn methu aros i groesawu ein cwsmeriaid.”

Ymwelydd o’r Senedd

Yn ddiweddar, fe wnaeth Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Gogledd Cymru yn Llywodraeth Cymru, ymweld â’r busnes yng nghanol y ddinas.

“Mae’n wych ymweld â’r busnes newydd hwn yma yng nghanol Bangor heddiw,” meddai.

“Mae gan ganol ein trefi botensial mawr ac rydym am gefnogi mentrau newydd.

“Rydyn ni’n gwybod fod y pandemig wedi cael effaith ar ganol trefi ac rwy’n falch ein bod ni eisoes yn gweld canlyniadau rhai o’r mesurau rydyn ni wedi’u rhoi ar waith gan gynnwys y gronfa entrepreneuriaeth canol tref.

“Rydw i wirioneddol yn dymuno’r gorau i Xscape Rooms Bangor ar gyfer y dyfodol.”

Jengyd

JENGYD: Llwyddiant i fenter ystafell ddianc o Geredigion

Gwern ab Arwel

Mae criw JENGYD wedi penderfynu mynd â’r fenter ymhellach ar ôl cael llwyddiant yng Ngŵyl Bro