Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fuddsoddi £203,880 er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir.

Bydd Hunaniaith, menter iaith Gwynedd, yn gallu penodi prif swyddog am bedair blynedd gyda’r arian.

Mae disgwyl y bydd Hunaniaith yn dwysáu’r gwaith o ddenu buddsoddiadau ychwanegol, fel eu bod nhw’n gallu cryfhau presenoldeb eu staff mewn cymunedau.

Am y tro, bydd Hunaniaith yn parhau i fod yn uned o fewn Cyngor Gwynedd, ond bydd gwaith yn bwrw yn ei flaen er mwyn sicrhau bod yn fenter yn endid annibynnol yn y dyfodol.

Llynedd, pleidleisiodd cabinet Cyngor Gwynedd yn unfrydol o blaid sefydlu tasglu er mwyn pennu’r camau i wneud Hunaniaith yn fenter annibynnol.

“Cyfraniad cadarnhaol”

Dywedodd Dafydd Iwan, Cadeirydd Grŵp Strategol Hunaniaeth, fod y cyllid newydd yn “fodd i’r fenter symud i’r wedd nesaf”.

Bu Dafydd Iwan yn dadlau llynedd nad yw Hunaniaith ar ei ffurf bresennol yn gynaliadwy, nag yn “cyflawni’r hyn rydyn ni isio iddo fo gyflawni”.

“Mae pawb am weld Hunaniaith yn parhau i wneud cyfraniad cadarnhaol dros yr iaith Gymraeg mewn cymunedau ar draws Gwynedd,” meddai Dafydd Iwan.

“Mae penderfyniad Cabinet y Cyngor yn benllanw dros flwyddyn o waith i adnabod y ffordd orau o alluogi Hunaniaith i ryddhau potensial di-ben-draw y Gymraeg yng Ngwynedd.

“Gyda chyllid newydd yn ei le, bydd modd i’r fenter symud i’r wedd nesaf fydd yn golygu dwysau’r gefnogaeth fydd ar gael i hybu a chynyddu defnydd o’r Gymraeg ym mhob cornel o’r sir, ac yn arbennig felly yn yr ardaloedd lle mae trai ieithyddol wedi bod.”

“Amddiffyn cymunedau Cymraeg”

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am y Gymraeg, fod gan Hunaniaith “rôl bwysig” i’w chwarae wrth amddiffyn cymunedau Cymraeg.

“Dros y blynyddoedd, mae polisïau a strategaethau iaith arloesol Gwynedd wedi amddiffyn ein cymunedau Cymraeg ac arwain y ffordd yn genedlaethol,” meddai Nia Jeffreys.

“Rydan ni am weld y gwaith yma yn parhau, ac yn awyddus i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith wirioneddol gymunedol mewn ardaloedd ar hyd a lled Gwynedd. Mae gan Hunaniaith rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith yma ac rydw i’n falch iawn ein bod fel Cabinet am fuddsoddi £203,880 i gyflymu a dwysau’r gwaith yma.

“Byddwn yn penodi prif swyddog ar gyfer y fenter yn fuan a fydd yn gwella’r cyswllt cymunedol pwysig yma, ynghyd a gweithio ar ddenu cyllid allanol ychwanegol i gefnogi gwaith hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd.

“Mae hyn yn gychwyn cyfnod newydd cyffrous i’r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Ngwynedd. Ein nod fydd gweld Hunaniaith fel endid annibynnol grymus a fydd yn fenter lle bydd perthynas glos gyda chymunedau ar hyd a lled y sir yn y dyfodol.”

Dyfodol annibynnol i Fenter Iaith Gwynedd?

“Credwn ei bod hi bellach yn amserol edrych mewn manylder ar sut bydd Hunaniaith yn gweithio orau i’r dyfodol,” meddai Dafydd Iwan.