Mae un o enillwyr seremoni Gwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru yn dweud bod ennill y wobr wedi rhoi “sicrwydd” iddyn nhw eu bod nhw ar y trywydd iawn.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn Venue Cymru yn Llandudno dros y penwythnos, gyda’r newyddiadurwraig Sian Lloyd yn arwain y noson.

Roedd 15 o enillwyr gwahanol yn y seremoni gyntaf ers dechrau’r pandemig, sydd wedi achosi gofid mawr i’r sector ledled y gogledd.

Mae perchennog gwesty a bwyty Plas Dinas, ger Caernarfon, wedi dweud wrth golwg360 fod y cyfnod wedi bod yn “galed,” a bod ailagor wedi bod yn werthfawr iawn, gyda nifer yn penderfynu peidio mynd ar wyliau dramor eleni oherwydd yr ansicrwydd.

‘Wrth ein boddau’

Mae Daniel Perks, sy’n rhedeg gwesty a bwyty Plas Dinas, wedi ymateb ar ôl ennill y wobr dros y penwythnos.

“Rydyn ni wrth ein boddau,” meddai wrth golwg360.

“Mae wedi bod yn llafur cariad, ac rydyn ni wastad wedi breuddwydio cael ein lle ein hunain.

“Rydyn ni’n caru’r lle, y stori, a’r teulu, felly pan gawson ni’r wobr, mae’n rhoi sicrwydd inni ein bod ni’n gwneud y peth iawn yma.”

‘Angerddol’

Mae’n rhedeg y gwesty ar y cyd â’i gymar Annie, ac mae’n credu bod gan y gogledd-orllewin lawer i’w gynnig o ran twristiaeth.

“Dw i ac Annie yn angerddol iawn am dwristiaeth yng Ngogledd Cymru,” meddai.

“Mae Annie yn wreiddiol o’r ardal, ac er fy mod i o Stratford upon Avon yn wreiddiol, rydw i wedi byw yma ers o gwmpas 20 mlynedd.

“Roeddwn i’n arfer dod yma ar wyliau yn blentyn, ac rydw i wastad wedi breuddwydio byw yma.

“Mae’n wych ein bod ni wedi darganfod rhywle mor brydferth â fan hyn, lle mae llefydd fel Ynys Môn, yr Wyddfa a Phen Llyn i gyd o fewn 20 munud i ni.”

‘Amser anodd’

Dydy Daniel ac Annie ond yn berchen ar y gwesty a’r bwyty ers ychydig dros ddwy flynedd, felly roedd y pandemig yn ergyd iddyn nhw ar y cychwyn.

Fe wnaethon nhw ddefnyddio’r cyfnod hwnnw pan oedden nhw ar gau i wneud gwelliannau ar yr adeilad, sydd wedi talu ar eu canfed, yn ôl Daniel.

“Mae wedi bod yn amser anodd,” meddai.

“I ni fynd mor hir heb unrhyw incwm, a hynny mor gynnar ar ôl i ni ddod yma, mae hynny wedi bod yn galed.

“Ac i ychwanegu costau atgyweirio ar ben hynny, rydyn ni wedi cymryd risg enfawr.

“Ond ers i ni ailagor, mae popeth wedi bod yn wych, ac fel mae hi’n troi allan, roedden ni’n iawn i fynd ymlaen gyda’r gwaith angenrheidiol.”