Mae prif weithredwr sefydliad addysg bellach yn y gogledd wedi croesawu cyllid ychwanegol sydd wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

Daeth cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 23) y bydd £10m yn cael ei roi i golegau ledled Cymru er mwyn hyfforddi staff ar gyfer sectorau sydd â phrinder gweithwyr.

Mae hyn yn cynnwys sectorau gyrru lorïau HGV ac LGV, adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy, lletygarwch ac iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd dros 2,000 o unigolion mewn addysg bellach yn cael budd o’r hyfforddiant ychwanegol ac yn cael cyfleoedd gwaith ychwanegol.

Croesawu’r cyllid

Dywed Dafydd Evans, prif weithredwr Grŵp Llandrillo Menai sy’n darparu addysg bellach yng ngogledd-orllewin Cymru, y bydd yr arian yn werthfawr wrth ailhyfforddi myfyrwyr yn y meysydd sydd dan sylw.

Bydd o gwmpas 200 o fyfyrwyr ar draws eu holl gampysau, sy’n cynnwys Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Llandrillo.

“Rydyn ni’n croesawu’r cyllid yn fawr iawn,” meddai wrth golwg360.

“Mae o’n gyfle gwych inni fod yn ymateb yn uniongyrchol i rai o’r problemau sydd yn y farchnad lafur ar hyn o bryd, oherwydd mae’r cyllid wedi ei dargedu yn benodol at ddatblygiadau diweddar yn y farchnad.

“Yn benodol, byddwn ni’n defnyddio’r cyllid mewn tri maes – mewn partneriaeth a chwmnïau hyfforddi HGV, wrth ailhyfforddi myfyrwyr mewn garejys ar ddefnydd o geir trydan a hybrid, ac mae’r trydydd yn edrych yn benodol ar faes iechyd a gofal.”

Mae’n dweud y byddai dros 100 o’u myfyrwyr yn cael budd o’r hyfforddiant HGV, tra bod hyd at 40 yn ymwneud â’r maes cerbydau trydan a hybrid, a thros 40 yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae hyn yn ymwneud ag uwchsgilio,” meddai.

“Hwyrach bod nifer o bobol yn gyrru faniau, ond bod modd iddyn nhw gael hyfforddiant pellach gyda lorïau HGV.”

Meysydd dan bwysau

Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad pellach mewn Cyfrifon Dysgu Personol, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles ei fod yn “falch” o sicrhau bod £10m ychwanegol yn mynd tuag at “roi hwb i’n menter cyfrifon dysgu personol”.

“Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn rhoi cyfle i bobol ennill y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i weld cynnydd yn eu gyrfa,” meddai.

“Rwy’n falch ein bod wedi sicrhau £10m ychwanegol i roi hwb i’r fenter hon.

“Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i bobol ailhyfforddi a chynyddu eu potensial i ennill cyflog mewn meysydd o’r economi y gwyddom sydd dan bwysau eithafol – gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, hyfforddiant i yrwyr HGV, lletygarwch ac adeiladu gwyrdd.”