Mae criw o ffrindiau o Landdewi-Brefi wedi mynd ati i lansio’r ystafelloedd dianc (escape rooms) cyntaf yn y Gymraeg, ac fe fyddan nhw’n mynd â’r fenter o amgylch Ceredigion mewn carafán.

Daeth y syniad am JENGYD wrth i’r criw feddwl am weithgareddau cymunedol addas yn ystod y cyfnod Covid-19.

Jengyd
Criw Jengyd

Fe wnaethon nhw logi ystafell yn nhafarn y New Inn yn Llanddewi-Brefi fel rhan o Ŵyl Bro, gan drefnu’r weithgaredd mewn ffordd oedd yn cyd-fynd â’r cyfyngiadau, gan gadw pob grŵp o fewn eu swigod a diheintio’r propiau.

Ar ôl gweld bod y diwrnod yn un llwyddiannus, penderfynodd y criw – Dorian, Iwan, Elan, Enfys, Lynet ac Emyr – ddatblygu’r syniad fel bod modd teithio i wahanol rannau o Gymru mewn carafán, yn ogystal â lansio amlenni JENGYD fel anrhegion Nadolig.

Gyda thri aelod o’r criw o chwech yn athrawon, roedden nhw’n gweld bod sgôp ar gyfer themâu addysgol yn ogystal â rhai mwy ysgafn a hwyliog.

Taith gynta’r garafán

Ffair Nadolig Pontrhydfendigaid fydd cyrchfan cynta’r garafán, a hynny ar Dachwedd 28.

Yno, bydd modd i dimau gydweithio i ddatrys cyfres o bosau a chliwiau yng nghegin Christine Bott a Richard Kemp, dau o brif wyddonwyr yr ymgyrch gyffuriau LSD enwog, Operation Julie, yn y 1970au.

Wrth i grwpiau fynd ati i ddod o hyd i allweddi i agor cloeon, codau i ddatrys posau a llawer mwy, byddan nhw’n cystadlu yn erbyn y cloc.

‘Ymgyrch hollol boncyrs’

Jengyd
Jengyd

Mae lle i gredu mai dyma’r ystafelloedd dianc cyntaf yn y Gymraeg.

“Ry’n ni’n disgwyl ymlaen yn fawr i groesawu ymwelwyr i garafan JENGYD,” meddai Enfys Hatcher Davies, un o’r sylfaenwyr.

“Roedd dewis y thema gyntaf yn rhwydd, a ninnau’n byw ar garreg drws yr ymgyrch hollol boncyrs – Operation Julie.

“I’r rhai fydd methu ymweld â carafan JEGYD, ry’n ni hefyd wedi creu senario Escape Room mewn amlen – anrheg Nadolig gwahanol i’r arfer! Bydd dirgelwch yr amlen yn mynd â chi nol i eira mawr 1982.

“Lot o sbort a lot o grafu pen i’r teulu oll!”