Mae myfyrwraig o Lasinfryn ger Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli pobol ifanc Cymru yn uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 fis nesaf.

Mae’r uwchgynhadledd yn cael ei chynnal yn Glasgow rhwng Hydref 31 a Thachwedd 12, a bydd cynrychiolwyr o bob cwr o’r byd yn dod ynghyd i gyfleu uchelgeisiau a gosod targedau ynglŷn â newid hinsawdd.

Yn eu plith fydd Clara Newman, sy’n Llysgennad Hinsawdd dros Ieuenctid Cymru, a bydd hi’n mynd i’r Alban gyda 12 o bobol ifanc o bob cwr o Gymru sy’n ymladd dros gyfiawnder ym maes yr hinsawdd.

Bydd hi’n mynychu digwyddiadau yn y ‘Parth Gwyrdd’ yng Nghanolfan Wyddoniaeth Glasgow, ac yn creu blogiau, podlediadau a ffilmio ei phrofiadau o fod yn rhan o’r uwchgynhadledd.

Yn ogystal â hynny, bydd yr holl lysgenhadon hinsawdd ifanc yn cynnal digwyddiad panel yn y Parth Gwyrdd ddydd Mercher, Tachwedd 10.

‘Chwarae rôl amhrisiadwy’

Ar hyn o bryd, mae Clara yn astudio celf a dylunio yng Ngholeg Menai ar gampws Parc Menai ger Bangor, ac mae hi wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i dynnu sylw at yr argyfwng hinsawdd.

“Mae’n dda gen i gynrychioli ieuenctid Cymru yn COP26,” meddai.

“Mae’n teimlo fel cyfrifoldeb mawr a gobeithiaf, fel llysgenhadon hinsawdd, y medrwn wneud gwahaniaeth bach i greu byd mwy cynaliadwy.”

Mae Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Menai, wedi llongyfarch Clara ar ei llwyddiant.

“Fel coleg, rydym yn falch iawn o gyflawniad Clara a dymunwn yn dda iddi yn y rôl allweddol hwn,” meddai.

“Bydd Clara yn cynrychioli pobl ifanc Cymru a bydd yn chwarae rôl amhrisiadwy wrth annog ac uno’r cymunedau ehangach i wynebu’r her o newid hinsawdd.”