Mae Gwasg y Bwthyn wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau eu hargraffdy yng Nghaernarfon.

Bydd tair swydd llawn amser a thair swydd rhan amser yn cael eu colli, wrth i’r busnes gyflwyno newidiadau oherwydd effeithiau economaidd sy’n deillio o’r pandemig.

Er y toriadau, bydd y cwmni’n parhau i gyhoeddi llyfrau, gyda dau olygydd rhn amser wrth y llyw.

Mae’r Wasg wedi bod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ac wedi cyhoeddi nofelau gan awduron fel Sonia Edwards, Siân Northey, a Bethan Gwanas.

Yn 2021, fe wnaethon nhw ailargraffu’r nofel eiconig Y Dydd Olaf gan Owain Owain.

Ond oherwydd y gnoc economaidd yn sgil y pandemig, yn cynnwys penderfyniad Eglwys Bresbyteraidd Cymru i beidio argraffu papur wythnosol Y Goleuad, fe gafodd y wasg ei gorfodi i wneud newidiadau.

“Nid penderfyniad hawdd”

Fe wnaeth Dylan Roberts, cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Gwasg y Bwthyn, sôn am y problemau oedd wedi eu hwynebu yn dilyn y pandemig.

“Nid yw’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod hawdd i unrhyw fusnes oherwydd yr holl gyfyngiadau a newidiadau a osodwyd arnom yn sgil Covid-19,” meddai.

“Nid penderfyniad hawdd oedd symud ymlaen i ddirwyn adran argraffu Gwasg y Bwthyn i ben, yn enwedig gyda’r hanes cyfoethog sydd ynghlwm â hi.

“Ond wedi hir drafod roedd yn amlwg mai dyna oedd yr unig ddewis, er mor anodd yw hynny i bawb sy’n gysylltiedig â’r wasg.

“Hoffwn ddiolch o galon i’r holl staff sydd wedi gweithio i’r adran argraffu ar hyd y blynyddoedd ac yn enwedig i’r rhai hynny sydd wedi rhoi o’u gorau yn ystod y cyfnod anodd yma. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i’n cwsmeriaid ffyddlon am eu cefnogaeth inni fel argraffwyr dros nifer o flynyddoedd.

“Fodd bynnag, edrychwn ymlaen nawr yn eiddgar at y dyfodol ac at ddatblygu ochr gyhoeddi Gwasg y Bwthyn ar ei newydd wedd drwy adeiladu ar y seiliau cryf sydd gennym.

“Gyda nifer o lyfrau arbennig yn cael eu hysgrifennu gan rai o brif awduron Cymru, rydym yn hyderus fod yna ddyfodol llwyddiannus a chyffrous o’n blaenau.”

Dyfodol “llewyrchus”

Bydd Gwasg y Bwthyn yn parhau i gyhoeddi llyfrau yn y dyfodol – gyda Marred Glynn Jones a Meinir Pierce Jones wedi eu penodi yn olygyddion.

“Mae’r ddwy ohonom yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfnod newydd yma yn hanes Gwasg y Bwthyn,” meddai.

“Mae’r dyfodol yn edrych yn un llewyrchus, gyda nifer o awduron talentog eisoes yn ysgrifennu llyfrau newydd ar ein cyfer.

“Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth ardderchog i’n hawduron, ac rydym bob amser yn croesawu syniadau gan awduron newydd a’r rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf.”