Mae busnes coffi newydd wedi ei sefydlu gan dri ffrind agos yng Nghaernarfon.

Fe gafodd ‘Coffi Dre’ ei lansio ym mis Medi eleni ar ôl i un o’r sefydlwyr, Ceurwyn Humphreys, feddwl bod bwlch yn y farchnad goffi yn y dref.

Mae’r fenter yn rhostio a chyfuno coffi, gan greu cynnyrch yn seiliedig ar ddiwylliant Caernarfon, gyda’r cyfuniad cyntaf, ‘Twtil’, yn gwerthu allan o fewn pedwar diwrnod yn unig.

Ar hyn o bryd, mae’r tri gŵr busnes ifanc wrthi’n gweddnewid hen drelar ceffylau i mewn i uned gwerthu coffi, a’u gobaith maes o law yw agor siop a chyfleuster rhostio coffi yn y dref.

Lansio

Mae Ceurwyn Humphreys, Haydn Riley-Walsh a Thomas Graham wedi bod yn gweithio ar y busnes ers mis Ebrill 2021, ar ôl i Ceurwyn gael ei ysbrydoli un diwrnod.

Mae tad Ceurwyn yn berchen ar gaffi ym Mhenrhyndeudraeth, ac roedd o’n gwneud paned o goffi yno un diwrnod pan sylweddolodd faint o hwyl oedd hynny.

Er mai cefndir mewn peirianneg sydd ganddo, roedd wedi gweithio yn ei arddegau fel barista mewn siop hufen iâ ym Mhorthmadog.

“Mae lansio Coffi Dre wedi bod yn brofiad gwych,” meddai.

“Rydyn ni’n llawn cyffro i gwblhau gweddnewid y trelar a’r gobaith yw cyrraedd rhai marchnadoedd Nadolig yn ystod y misoedd nesaf!

Coffi i’r Cofis

Er mai o Flaenau Ffestiniog oedd Ceurwyn yn wreiddiol, mae bellach yn byw yng Nghaernarfon ac wedi canoli’r busnes rownd y dref.

“Rydyn ni’n benderfynol o ddathlu Caernarfon a’i phobl gyda Choffi Dre,” meddai.

“Mae defnyddio hen iaith y Cofi i roi sylw i rai o’r geiriau ac ymadroddion lleol a ddefnyddir gan bobl Caernarfon yn rhywbeth sy’n hynod o bwysig i ni.

“Er enghraifft – y cod disgownt ar ein gwefan – ‘giaman’ – yw’r gair Cofi am ‘gath’!”