Mae prinder mewn gofalwyr maeth sy’n siarad Cymraeg i safon yn uchel yng Ngheredigion.

Roedd adroddiad i’r cyngor yn dangos mai dim ond un gofalwr oedd yn cyrraedd y safon uchaf o ran siarad, gwrando, clywed ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Mae yna chwe gofalwr yn y sir sydd â dim gallu i siarad nag ysgrifennu yn yr iaith, tra bod cynnydd yn y niferoedd sydd â dim sgiliau gwrando na darllen.

Mae hyn o gyfanswm o 31 o deuluoedd maeth cofrestredig ac 16 o ofalwyr sy’n berthnasau.

O ran y plant sy’n derbyn gofal, mae yna lai na phump ohonyn nhw yn ystyried y Gymraeg fel eu hiaith gyntaf.

Er gwaetha hynny, mae mwy o blant angen cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd mai dyna yw iaith addysg llawer o ysgolion y sir.

Trochi

“Hyd yn oed os nad yw’r plant wedi dewis Cymraeg fel eu prif iaith, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi ein teuluoedd maeth fel eu bod yn gallu helpu gyda gwaith cartref a’r elfen ddiwylliannol o fyw yng nghefn gwlad Cymru,” meddai rheolwr gwasanaethau uniongyrchol y cyngor, Nerys Lewis.

“Mae yna waith i ni ei wneud i ddatblygu’r elfen Gymraeg ac mae’n bwysig adrodd bod yr ymwybyddiaeth a’r parodrwydd i ddysgu elfennau o’r iaith yno o fewn ein teuluoedd maeth.”

Mae’r angen am fwy o ofalwyr maeth yn broblem genedlaethol, gyda Cheredigion yn ceisio bod yn “arloesol” wrth sicrhau bod plant yn gallu cael eu trochi mewn diwylliant Cymraeg ar yr un pryd.

Awdurdodau lleol Cymru’n dod ynghyd i hybu nifer y gofalwyr maeth gan lansio rhwydwaith Maeth Cymru

Arolwg newydd yn dangos fod 39% o oedolion Cymru wedi ystyried dod yn ofalwyr maeth, ond bod angen recriwtio 550 o ofalwyr maeth newydd bob blwyddyn