Mae nifer o drigolion Llanberis yn anhapus am bobol sy’n gwersylla’n anghyfreithlon yn y pentref.

Daw hyn ar ôl i wersyllwyr godi eu pabell wrth ochr trac Rheilffordd Llyn Llanberis dros y penwythnos.

Mae’r atyniad twristaidd poblogaidd yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd ar hyd glannau Llyn Padarn o’i ganolfan yn Gilfach Ddu.

Mae gwersylla gwyllt yn anghyfreithlon yng Nghymru ond mae wedi dod yn gyffredin yr haf hwn gan fod gwestai, parciau gwyliau a safleoedd gwersylla yn aml yn llawn.

Dangosa lluniau gafodd eu postio i Grŵp Cymunedol Llanberis ar wefan Facebook fod y babell wedi cael ei chodi llathenni yn unig oddi wrth y trac.

“Wel beth nesaf?” holodd Ian Hughes, wnaeth bostio’r llun i’r grŵp.

“Mae hyn yn mynd â train spotting i lefel newydd,” meddai aelod arall.

“Byddan nhw yn ein gardd gefn ni nesaf, a dyw’r gyfraith ddim yn caniatáu i chdi eu cicio nhw oddi yno,” meddai un trigolyn.