Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth am ymosodiad a ddigwyddodd yn Aberystwyth.

Digwyddodd yr ymosodiad rhwng 6 a 7yh ar y Stryd Fawr ger tafarn yr Angel, nos Fercher, 1 Medi 2021.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion, ac yn annog unrhyw un sydd gan unrhbyw wybodaeth a allai fod o gymorth i’w ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Mae posib i bobol gysylltu ag elusen Crimestoppers i roi gwybodaeth yn ddienw.