Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ehangu eu gwasanaeth bws Fflecsi i gyrraedd rhannau o orllewin Cymru.

Byddan nhw’n cyfuno’r gwasanaeth hwnnw gyda gwasanaeth Bwcabus, sydd eisoes yn weithredol yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ers bron i 12 mlynedd.

Ar gyfer y fenter newydd, bydd technoleg ychwanegol yn cael ei ddefnyddio, yn cynnwys yr ap Fflecsi, sy’n galluogi teithwyr i archebu a dilyn teithiau.

Bydd modd archebu teithiau dros y ffôn hefyd, a gellir gwneud hynny o 28 diwrnod ymlaen llaw hyd at awr cyn dechrau teithio.

Gwella trafnidiaeth gyhoeddus

“Mae Bwcabus yn wasanaeth poblogaidd sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan bobl Sir Gaerfyrddin a thu hwnt,” meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru.

“Drwy gefnogi’r gwasanaeth hwn gyda’r ap Fflecsi a chanolfan alwadau Trafnidiaeth Cymru, byddwn yn ceisio denu hyd yn oed rhagor o deithwyr i Fflecsi Bwcabus.

“Mae’r gwasanaeth arloesol hwn yn rhan bwysig o Trafnidiaeth Cymru a gweledigaeth Llywodraeth Cymru i leihau’r defnydd o geir a hyrwyddo ffyrdd mwy gwyrdd o deithio, ar yr un pryd â chefnogi’r economi leol a sicrhau mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.”

Ymateb Cyngor Ceredigion

Mae Dafydd Edwards, aelod cabinet Cyngor Ceredigion dros briffyrdd, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Mae Fflecsi yn ychwanegiad newydd cyffrous at wasanaethau bysiau ein rhanbarth,” meddai.

“[Byddan nhw’n] rhoi mwy o ffyrdd i deithwyr archebu a mwy o reolaeth dros y ffordd maen nhw’n symud o gwmpas drwy roi mynediad at ddewisiadau teithio dibynadwy a hyblyg.”