Mae cynghorwyr yng Ngheredigion wedi cwyno am y “diffyg cyfathrebu” ynghylch cynlluniau ar gyfer Canolfan Les newydd yn Llambed.

Fe gafodd y cynlluniau eu trafod mewn cyfarfod pwyllgor cymunedau iachach ddydd Mercher (22 Medi).

Byddai’r ganolfan yn rhan o gynllun Hybiau Lles y sir, ac yn cael ei lleoli yng Nghanolfan Hamdden Llambed.

Dyma fyddai’r cyntaf o’i math yn y sir, a byddai’n darparu gwasanaethau hamdden er mwyn gwella llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol trigolion lleol.

“Cart o flaen y ceffyl”

Mae rhai cynghorwyr yn cwestiynu maint yr adnoddau sydd ar gael, gyda lle i ond tri chwrt badminton yn y neuadd chwaraeon, yn hytrach na phedwar sy’n arferol.

Roedd y Cynghorydd Hag Harris yn ategu pryderon tîm pêl-rwyd lleol, gan ddweud eu bod nhw “am gael neuadd chwaraeon sydd ddim digon mawr.”

Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans bod y “cart o flaen y ceffyl” a bod dim digon o gyfathrebu wedi bod gyda’r cyhoedd yn lleol.

Porth Cymorth Cynnar sy’n gyfrifol am drefnu’r fenter hybiau lles ar y cyd â phartneriaid eraill.

Dywedodd eu rheolwr corfforaethol, Carwyn Young, y byddai ymgynghoriad gyhoeddus pellach, a bod modd cynnal gemau pêl-rwyd ar gyrtiau cyfagos ym Mhrifysgol Llambed neu yn Aberaeron.