Mae’r cynghorydd dros Felinheli ger Bangor wedi penderfynu rhedeg marathon Llundain eleni er mwyn codi arian at elusen ‘Children with Cancer UK’.

Fe gafodd Gareth Griffith ei ysgogi gan y gwaith mae’r elusen yn ei wneud gyda phlant sy’n dioddef o’r afiechyd, gan ddweud bod y “geiriau ‘cancr’ a ‘phlant’ ddim i fod yn yr un frawddeg.”

Mae’r elusen yn nodi bod 12 plentyn yn y Deyrnas Unedig yn cael diagnosis o gancr bob dydd.

Drwy ariannu gwaith ymchwil arbenigol, bwriad yr elusen yw sicrhau bod y plant yma’n cael pob cyfle posib i oroesi’r afiechyd.

Yr hwb a’r her

Roedd Gareth Griffith, sy’n wreiddiol o’r Groeslon, fod i redeg marathon Llundain y llynedd, ond cafodd ei ohirio oherwydd pandemig Covid-19.

Dyma’r her ddiweddaraf iddo, ar ôl iddo gerdded 60 milltir yn ddi-dor yn 2017 er mwyn codi arian i elusen GISDA yng Nghaernarfon ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Fe lwyddodd i godi £800 bryd hynny, ond mae o eisoes wedi codi dros £2,500 ar gyfer yr her ddiweddaraf i elusen Children with Cancer.

“Mae’r elusen yn cynnal prosiectau ymchwil manwl i alluogi mwy o blant i oroesi, darganfod triniaethau mwy caredig sy’n osgoi trafferthion tymor hir, cefnogi teuluoedd i aros yn agos at eu plant yn ystod eu triniaethau a threfnu dyddiau arbennig i blant a’u teuluoedd fwynhau,” meddai Gareth.

“Dyma beth fyddai’n feddwl amdano wrth gymryd rhan yn y marathon ar y trydydd o Hydref, y plant a’r teuluoedd yma fydd yn elwa o’r arian fyddai’n ei godi trwy redeg y ras.

“Dwi’n benderfynol o orffen y marathon, ond ddim am roi amser ar y daith o gwbl.

“Mi fyddai’n torri’r daith, fel dwi wedi ei wneud wrth hyfforddi, a byddai’n dweud wrthyf fy hun, ‘dwi am redeg at y postyn yna’. Ar ôl cyrraedd hwnnw, dwi’n dweud, ‘dwi am redeg at y gornel yna,’ ac felly byddai’n mynd amdani gydol y daith.”

Gareth (canol), ei wraig Christine (chwith), a’i ferch Ceri (dde)

Diolch

“Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu drwy’r dudalen Virgin Money Giving neu i mi yn bersonol dros y misoedd diwethaf,” meddai Gareth.

“Mae pob un geiniog yn mynd i’r achos teilwng yma, felly dwi’n falch iawn o allu casglu ar eu cyfer.

“Dwi’n cyfri’r dyddiau rŵan ac yn llacio ‘chydig ar yr hyfforddi er mwyn bod yn gryf ac yn barod amdani.

“Bydd rhedeg drwy strydoedd Llundain yn wahanol iawn i deithio lonydd Gwynedd, ond dwi’n edrych ’mlaen at hwyl y dydd a bod yn rhan o daith fyd enwog dwi wedi eu gwylio o bell dros y blynyddoedd.”

Mae modd cyfrannu arian at yr elusen drwy dudalen Gareth Griffith ar Virgin Money Giving.