Mae cwmni trydan National Grid am ddechrau ar brosiect uwchraddio adnoddau yn Eryri yn ddiweddarach eleni.

Byddan nhw’n gosod ceblau tanddaearol newydd rhwng gorsaf bŵer cwmni First Hydro yn Dinorwig ac is-orsaf bŵer Pentir, i gymryd lle’r rhai a gafodd eu gosod yn y 1970au.

I sicrhau bod gorsaf Dinorwig yn parhau i allu cyflenwi trydan drwy gydol y gwaith, bydd rhaid dilyn llwybr tanddaearol newydd cyfagos wrth osod y ceblau, gan gadw’r hen rai mewn lle tan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.

Mae’n debyg bydd y prosiect yn parhau tan 2027, gyda gwaith adeiladu cyson yn digwydd ar briffyrdd fel yr A4086 a’r A4244.

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd a chyrff amgylcheddol roi’r golau gwyrdd i’r prosiect yn gynharach eleni, felly bydd y gwaith cychwynnol yn dechrau yn hydref 2021.

Bydd y ceblau eu hunain ddim yn cael eu gosod tan hydref 2023.

Gwaith yn “hanfodol”

Fe wnaeth John Armstrong, rheolwr gorsaf Dinorwig, ddweud bod yr orsaf yn rhan bwysig o rwydwaith trydan Cymru a Lloegr, a bod angen cynnal y gwaith i sicrhau ei dyfodol.

“Mae’n cynhyrchu llawer o bŵer ychwanegol yn gyflym pan fydd y galw am drydan ar ei uchaf, gan helpu National Grid i ddarparu cyflenwad dibynadwy i gartrefi a busnesau Prydain,” meddai.

“Yn ogystal, mae Dinorwig yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ynni carbon isel Prydain trwy gefnogi cysylltu mwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy, fel ynni gwynt ac ynni’r haul, â’r system.

“Mae’n hanfodol sicrhau bod y cysylltiad rhwng yr orsaf a’r rhwydwaith trydan yn ddibynadwy er mwyn rhedeg gwasanaeth effeithlon a diogel.”