Mae cynghorwyr Ceredigion wedi bod yn pwysleisio eu gwrthwynebiad i gasinos yn y sir ac wedi galw am fwy o gyfyngiadau ar hysbysebion gamblo.

Pleidleisiodd aelodau’r Pwyllgor Economi’r cyngor yn unfrydol wrth ailadrodd gwrthwynebiadau blaenorol i ganiatáu sefydlu casino yng Ngheredigion.

Mae disgwyl i’r cyngor, fel awdurdod trwyddedu, adolygu ei bolisi gamblo o dan Ddeddf Gamblo 2005 eleni gyda’r polisi drafft y dylid ymgynghori arno.

Yn y pwyllgor ddydd Iau (16 Medi) roedd cynghorwyr yn glir y dylai’r polisi gadw ei gymal sy’n gwahardd casinos o Geredigion.

Mynegodd y Cynghorydd Marc Davies bryderon hefyd am hysbysebu gamblo, yn enwedig ar y teledu, gydag aelodau hefyd yn poeni am ddiffyg rheolaeth ar oedran y rhai sy’n cael mynediad i gamblo ar-lein.

Dywedodd fod angen mwy o bwysau i gyfyngu ar hysbysebu – neu ei atal yn gyfan gwbl – gan ychwanegu nad oedd unrhyw “sylweddau caethiwus” eraill yn cael eu hysbysebu mor rhydd.

Nodwyd hyn gan yr uwch swyddog trwyddedu Gareth Rees a ddywedodd fod problem o ran rheoli gamblo ar ddyfeisiau fel ffonau symudol a gobeithio y byddai’n cael ei ystyried fel rhan o Bapur Gwyn y Llywodraeth sydd ar y gweill.

Mae’r Comisiwn Gamblo wedi cyhoeddi astudiaeth newydd sy’n edrych ar gamblo ymhlith pobl ifanc ac oedolion rhwng 16 a 30 oed, a amlinellir ar gyfer aelodau, a bydd rhagor o wybodaeth o drafodaethau’r Llywodraeth yn cael ei bwydo’n ôl i’r pwyllgor.